Cerddoriaeth yng Nghymru’r Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar

Mae archwilio cerddoriaeth yng Nghymru’r oesoedd canol a’r cyfnod modern cynnar yn faes amlwg o fewn yr Ysgol Cerddoriaeth, o dan adain ehangach Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru. Yn hyn o beth, mae ymchwil yn y maes yn cwmpasu sbectrwm cyfan cerddoriaeth gysegredig a seciwlar, ac yn ymestyn hefyd i theori cerddoriaeth gynnar Cymru. Mae cerddoriaeth y diwylliant barddol, yn cynnwys stoc y tabl nodiant unigryw i’r delyn a gopïwyd gan Robert ap Huw tua 1613, y dulliau amrywiol o osod cerddoriaeth mewn barddoniaeth gaeth, a rhai modelau posibl ar gyfer penillion i gyfeiliant telyn yn gangen o bwys. Mae canghennau eraill o ymchwil yn canolbwyntio ar y stoc ddomestig a genid ac a chwaraeid ar aelwydydd Cymreig Angloffilaidd cyn 1650, a’r cysylltiad â modelau newidiol o nawdd; ffynonellau’r litwrgi ganoloesol; sefydliadau litwrgaidd Cymreig; ac ymddangosiad salmyddiaeth fetrig yng Nghymru, tua dechrau’r 17eg ganrif, i’w chanu.

Sally Harper

Mae Dr Sally Harper yn cydlynu gwahanol ganghennau’r ymchwil i Gymru’r oesoedd canol a’r cyfnod modern trwy Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru.  Mae ei diddordebau personol yn ymestyn i’r holl agweddau ar gerddoriaeth Cymru cyn 1650, gyda chyfeiriad penodol at ei chyd-destun diwylliannol ehangach. Maes yw hwn nad oedd wedi tynnu ond ychydig o sylw ysgolheigaidd difrifol, ac mae ei hailwerthusiad cyfredol o gorff amrywiol iawn o ddeunydd ffynonellol (a llawer ohono yn y gorffennol wedi cael sylw arwynebol yn unig, neu i bob pwrpas heb gael ei ddarganfod) yn parhau i wrthbrofi’r dybiaeth fod cerddoriaeth gynnar yng Nghymru’n rhy ymylol i deilyngu sylw ysgolheigaidd o ddifrif. Mae ei gwaith hefyd wedi herio nifer o honiadau blaenorol a oedd heb sail ffeithiol briodol na chyd-destun hanesyddol.

Mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar lawer o bynciau gwahanol: ffynonellau litwrgaidd cynnar (yn cynnwys Llyfr Esgobol Bangor ac Antiffonydd Penpont); gwahanol agweddau ar y diwylliant barddol (yn cynnwys cyfeiriad cerddorol o fewn barddoniaeth Dafydd ap Gwilym); cerddoriaeth ar yr aelwyd yng Nghymru (yn cynnwys Plas Lleweni, ger Dinbych); a dirnadaethau canoloesol diweddar a modern cynnar y Lloegr ynglŷn â cherddoriaeth a cherddorion o Gymru ar y pryd. Cyhoeddwyd ei hastudiaeth swyddogol ar gerddoriaeth yn y diwylliant Cymreig cynnar ym mai 2007.

Paul Whittaker

(Cymrawd Ymchwil Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru)

Mae prif faes ymchwil Paul Whittaker yn archwiliad cyfredol ar gerdd dant ganoloesol, sy’n gangen bwysig o weithgaredd o fewn Canolfan Uwch Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru, wedi’i gydlynu gyda Sally Harper. Mae ei waith ei hun wedi datblygu’n barhaus ers iddo gwblhau ei thesis arloesol ar lawysgrif Robert ap Huw (gellwch ei lwytho i lawr yma) ers mwy na 30 mlynedd. Ers ychydig flynyddoedd, mae wedi cyhoeddi ar ffurfiant y llawysgrif, ar ffurfiau harmonig ei stoc gerddorol, ac ar ffynhonnell gysylltiedig ‘Iolo Morganwg’ (BL MS Add. 14970). Erbyn hyn, mae wrthi’n cwblhau llyfr ar ddehongliad ehangach cerdd dant, ac mae hefyd (unwaith eto dan nawdd CUACC) yn ymwneud â gwaith golygu a chyfieithu ffynonellau theoretig cynnar o Gymru. Yn yr ystyr ehangach, mae i’w waith oblygiadau pwysig, nid yn unig ar gerddoreg Gymreig, ond hefyd ar ysgolheictod cynnar ym maes y delyn ar lefel gyffredinol, ac ar astudiaethau nodiant a thabl nodiant cynnar yn y Gorllewin.