Proffil Staf o Robert Pascall

Enw
Robert Pascall
Swydd
Athro Ymchwil
E-bost
r.pascall@bangor.ac.uk
Ffôn
01248 382181
Lleoliad

 

 

Cefndir

Ganwyd Robert Pascall ym Mae Colwyn ym 1944, astudiodd yn Rhydychen rhwng 1962-8 gyda John Caldwell, Egon Wellesz a Syr Jack Westrup, lle bu’n ysgolor organ yng Ngholeg Keble; thesis ddoethurol: Formal Principles in the Music of Brahms. Ymunodd â’r Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Nottingham ym 1968, gan wasanaethu yno fel Athro a Phennaeth Cerddoriaeth rhwng 1988-98. Ym 1998, penodwyd ef yn Athro Cerddoriaeth a Phennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan ymddeol yn 2005. Oddi ar hynny, mae’n ymhyfrydu wrth weithio i’w ddwy brifysgol, ym Mangor fel Athro Ymchwil rhan-amser, ac yn Nottingham fel Athro Cerddoriaeth rhan-amser.

Bûm yn addysgu ym meysydd hanes cerddoriaeth, dadansoddi, beirniadu, golygu, harmoni a gwrthbwynt, medrau allweddell, ac ymarfer perfformio. Mae sawl un o’m myfyrwyr PhD, yn cynnwys Sarah Callis, David Huron, Mary Ingraham, Martin Leigh, Ellen Townsend, â phenodiadau mewn prifysgolion. Rwyf wedi traddodi darlithoedd gwadd yn America, Awstria, yr Almaen, Sbaen, Sweden, Malta, yn cynnwys cyfres ddiweddar o seminarau ar olygu yn Academi Sibelius Academy, Helsinki. Rwyf wedi darlledu ar radio cenedlaethol ym Mhrydain, Canada, yr Almaen, a’r Iseldiroedd, ac rwy’n cydweithio ag artistiaid perfformiadol, yn cynnwys Thomas Dausgaard, Syr Charles Mackerras, Syr Roger Norrington, ac Elizabeth Wallfisch, ar berfformiadau o gerddoriaeth Brahms sy’n seiliedig ar ddulliau hanesyddol.

Sefydlais y Gynhadledd Ryngwladol ar Gerddoriaeth y 19eg ganrif, gan gyfarwyddo’r Gyntaf a’r Nawfed yn Nottingham (1978, 1996). Bûm yn Gadeirydd ar Fwrdd Golygyddol y Cylchgrawn Music Analysis rhwng 1989-2002, yn Llywydd ar Gymdeithas Dadansoddi Cerddoriaeth rhwng 1996-2000; ac rwy’n Gyfarwyddwr Gohebol ym Mhrydain ar Gymdeithas Brahms America 1983-, yn stellvertretender Vorsitzender (Is-Gadeirydd) ar Johannes Brahms Gesamtausgabe (Argraffiad Cyflawn Newydd Johannes Brahms) 1991-. Bûm yn sylfaenydd ar y gyfres Papers in Musicology (Nottingham 1991-) a Bangor Monographs in Musicology (Bangor 2003-).

Mae fy ysgrifau ar gerddoriaeth yn ymdrin â meysydd o J.S. Bach hyd at Arnold Schoenberg, gan ganolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth Brahms, ac rwy’n gweithio fel hanesydd, dadansoddwr a golygydd.

Prif Gyhoeddiadau

Ers Rhagfyr 2000, maent yn cynnwys:

Argraffiadau:

Johannes Brahms: Symphonie Nr.2 D-Dur Opus 73 [gyda Michael Struck] (Johannes Brahms Gesamtausgabe: Henle, München 2001).

Brahms: Symphonie Nr.2 D-Dur Opus 73: Urtext (Henle, München  2005) – sgôr astudiaeth o’r uchod, gyda Chyflwyniad ac Adroddiad Beirniadol newydd.

Johannes Brahms: Symphonie Nr.3 F-Dur Opus 90 (Johannes Brahms Gesamtausgabe: Henle, München  2005).

Astudiaethau:

‘Brahms underway to the Adagio of his Clarinet Quintet: A story of stylistic assimilation and enrichment’, yn: Rezeption als Innovation: Festschrift für Friedhelm Krummacher, gol. Bernd Sponheuer (Kassel 2001).

‘Thematic Difference and Process in Brahms's Third Symphony: a Study in Cognitive Semiology’, yn: Analyse et création musicales: Actes du Troisième Congrès Européen d’Analyse Musicale: Montpellier 1995 (Paris 2001).

‘Frühe Brahms Rezeption in England’, yn: Internationaler Brahms-Kongress Gmunden 1997. Kongreß-Bericht, gol. Ingrid Fuchs (Tutzing 2001).

‘Desiderata der Brahmsforschung - Aufführungspraxis’, yn: Internationaler Brahms-Kongress Gmunden 1997. Kongreß-Bericht, gol. Ingrid Fuchs (Tutzing 2001).

‘Das Apokalyptische in Brahms' Ein Deutsches Requiem: Begriff und musikalische Darstellung’ [gyda Philip Weller], yn: Apokalypse. Symposion 1999 gol. Carmen Ottner (Fienna 2001).

‘”Vom Standpunkte des tiefreligiösen Menschen und des Künstlers”: Textverarbeitung und rhetorisch-szenische Darstellung in Das Buch mit sieben Siegeln von Franz Schmidt’ [gyda Philip Weller], yn: Apokalypse. Symposion 1999, gol. Carmen Ottner (Fienna 2001).

 ‘Brahms, Johannes’, yn: Rhydychen Composer Companions: Haydn, gol. David Wyn Jones (Rhydychen 2002).

‘Sources and Editions’, yn: A Performers Guide to Music of the Romantic Period, gol. Anthony Burton (Llundain 2002).

‘Theory and Practice: Schoenberg’s American Pedagogical Writings and the First Movement of the Fourth String Quartet, op.37', yn: Journal of the ArnoldSchönbergCenter 4/2002: ‘Arnold Schoenberg in America (Fienna 2002).

‘Models for Beginners in Composition - Structural Functions of Harmony - Preliminary Exercises in Counterpoint – Fundamentals of Musical Composition’, yn: Arnold Schönberg . Interpretationen seiner Werke, gol. Gerold Gruber (Laaber 2002).

‘Middle-out Music Analysis and its Psychological Basis’ [gyda Richard Parncutt], yn: Proceedings of the 7th International Conference on Music Perception and Cognition,Sydney 2002, gol. C. Stevens et al. (Adelaide 2002).

‘Arnold Schoenberg and radical guardianship’, yn: Experiencing Tradition: Essays of Discovery, gol. Hinrich Siefken and Anthony Bushell (Caerefrog 2003).

‘Flexible tempo and nuancing in orchestral music: understanding Brahms’s view of interpretation in his Second Piano Concerto and Fourth Symphony’ [gyda Philip Weller], yn: Performing Brahms: Early Evidence of Performance Style, gol. Michael Musgrave and Bernard D. Sherman (Caergrawnt 2003).

‘Kampf in der Werkstatt – Kampf um die Werkstatt: Spuren von Johannes Brahms’ kompositorischer Arbeit in der 2. Symphonie und ihre editorische Darstellung’ [gyda Michael Struck], yn: Die Musikforschung 56.Jg. 2003, Heft 4.

‘”Lachner spricht echten Suitenton”: Franz Lachners Orchestersuiten im Kontext seiner Zeit’, yn: Franz Lachner und seine Brüder: Hofkapellmeister zwischen Schubert und Wagner, gol. Stephan Hörner and Hartmut Schick; Münchener Veröffentlichungen zur Musikgeschichte, Bd. 63 (Tutzing 2006).

‘Brahms Underway to the “1st Symphony”: A Hidden Story of Concept Development’, yn: Festschrift Otto Biba zum 60.Geburtstag, gol. Ingrid Fuchs (Tutzing 2006).

‘"Das Werkwerden des Werkes": Editing, Analysis, and the First Movement of Schoenberg’s Fourth String Quartet’ yn: "Vom Erkennen des Erkannten". Musikalische Analyse und Editionsphilologie. Festschrift für Christian Martin Schmidt, gol. Friederike Wißmann, Thomas Ahrend a Heinz von Loesch (Wiesbaden/Leipzig 2007).