Proffil of Stephen Rees

Llun o Stephen Rees
Enw
Stephen Rees
Swydd
Darlithydd
E-bost
s.p.rees@bangor.ac.uk
Ffôn
01248 382184
Lleoliad
Ysgol Cerdd

Cefndir

Addysgwyd Stephen Rees (a anwyd ym 1963 yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin) yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt. Astudiodd y piano gyda Beate Popperwell yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru rhwng 1977 a 1981. Fe’i apwyntiwyd yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ym Mangor ym 1988 ac mae wedi dysgu ystod eang o bynciau hanesyddol o’r oesoedd canol hwyr i’r ugeinfed ganrif, yn ogystal â harmoni a gwrthbwynt, dadansoddi cerddoriaeth, technoleg cerddoriaeth, technegau electroacwstig, ac arddulliau ffidil traddodiadol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru ac mae wedi perfformio’n broffesiynol ar hyd a lled y DU, Ewrop, a Gogledd a De America.

Addysgu Cyfredol

Blwyddyn Gyntaf

Harmoni a Gwrthbwynt (Cymraeg a Saesneg); Astudio Cerddoriaeth y Gorllewin

Ail a thrydedd flwyddyn

Beethoven a’r Pedwarawd Llinynnol (Cymraeg a Saesneg); Celfyddyd Serch Llys (Cymraeg a Saesneg); Astudiaethau Tonyddol (Cymraeg)

Dyletswyddau goruchwylio cyfredol yn cynnwys prosiectau ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru, hardingfele Norwy, ac astudiaethau tonyddol

Cyfrifoldebau

Tiwtor Derbyn
Tiwtor Blwyddyn Gyntaf

Diddordebau Ymchwil

Cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru
Adfywiad cerddoriaeth werin yng Nghymru ac Ewrop
Y gân boliffonig Ewropeaidd a’i ffynonellau yn niwedd y bymthegfed ganrif

Theori cerddoriaeth iaith-Gymraeg

Prif gyhoeddiadau

Erthyglau

(gyda Sally Harper) ‘Agweddau ar Balaeograffeg a Hanes Llawysgrif Robert ap Huw’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 3 (1999), 68−81.

Traddodiadau Cerdd Cymru, Darlith Goffa Amy Parry-Williams (Aberystwyth: Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 2000), 20pp.

‘Traddodiad Celtaidd Newydd? Perfformiad Offerynnol gan Grwpiau yn yr Adfywiad Gwerin yng Nghymru, c.1975-c.1989’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 7 (2007), 325-343.

Erthyglau byrrach, Adolygiadau

‘Gwynfyd Moderniaeth’ [adolygiad o Christopher Butler, Early Modernism: Literature, Music and Painting in Europe, 1900-1916 (Rhydychen, 1994)], Tu chwith, 3 (1995), 87-91.

‘Gwlad y Gân: Ailddiffinio’r Traddodiad’ Barn, 401 (Mehefin 1996), 18-20.

‘Rediscovering the Welsh Fiddle’, The Strad, Chwefror 1998, 143-147.

‘Late Medieval Secular Song’ [Adolygiad o CDs o recordiadau o gerddoriaeth Solage, Binchois, Ockeghem ac eraill], Early Music, 26 (1998), 681-685.

‘The Violin in Folk Music’, yn Richard Dawes (gol.), The Violin Book (Llundain: Balafon Books, 1999), 118-120.

‘Wales: crwth’, ‘Wales: pibgorn’, ‘Wales: penillion singing’, ‘Wales: hymn-singing’ a ‘Wales: harp/telyn’, yn Fintan Valelly (gol.), The Companion to Irish Traditional Music (Corc: Cork University Press, 1999), 424-30.

‘Fy amser i ganu’ [adolygiad o Merêd: Meredydd Evans yn canu 50 o ganeuon gwerin traddodiadol’, Sain SCD 2414], Barn, 514 (Tachwedd 2005), 15-16.

Pum erthygl fer ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru yn y Gwyddoniadur (i ymddangos yn 2008).

Papurau diweddar ac ar y gweill

‘A ‘Celtic’ Reaction? Musical Style and National Identity in Welsh Folk Music Groups of the 1970s and 1980s’.
Cynhadledd Ryngwladol ar Astudiaethau Cymreig (trefnwyd gan NAASWCH: the North American Association for the Study of Welsh Culture and History). Prifysgol Cymru, Abertawe: Dydd Iau 13 Gorffennaf, 2006.

‘Celtic and European Identities in the Revival of Welsh Traditional Music’. Image and Identity in Contemporary Europe (trefnwyd gan Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor a WISCA). Bangor: Dydd Iau 7 Medi, 2006.

‘ “On some compositions from the fifteenth century”: Fétis, Pixérécourt, and the Rediscovery of Late Medieval Music’.
Bangor: seminar fideo IMEMS. Dydd Mawrth 21 Tachwedd, 2006.

‘Wales versus Brittany: Real and Imagined Presences in the Music of fernhill.’
Bangor: cynhadledd CUACC, ‘Archwilio Cerddoriaeth yng Nghymru’. Dydd Sadwrn 23 Mehefin, 2007.

‘Welsh or Breton? Local and Regional Identities in the Music of fernhill’.
Society for Music Analysis Study Day, Prifysgol Lerpwl, Dydd Gwener 16 Tachwedd, 2007

Cyfansoddi

Cam Ymlaen (2000-2001)
50 munud o gerddoriaeth (yn gyfansoddiadau gwreiddiol a threfniannau o gerddoriaeth draddodiadol) ar gyfer y rhaglen deledu Cam Ymlaen, a oedd yn nodweddu stepio traddodiadol Cymreig. Cyfuniadau amrywiol o gerddorion hyd at uchafswm o fand 13-aelod. Cynhyrchwyd gan gwmni Teledu Elidir ar gyfer S4C. Un rhaglen 54-munud. Darlledwyd 4/8/2001.

Darlledu

Yn Ein Dwylo (2000-2001)
Ymgynghorydd a chyflwynydd y gyfres deledu chwe-rhan Yn Ein Dwylo, oedd yn edrych ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru ddoe a heddiw. Cynhyrchwyd gan gwmni Teledu Elidir ar gyfer S4C. Chwe rhaglen 27-munud. Darlledwyd Medi-Hydref 2001.

Byw Cerdd (2005)
Ymgynghorydd a chyflwynydd y gyfres radio bedair-rhan Byw Cerdd, a oedd yn rhoi sylw i gerddorion o Gymru a oedd yn gweithio mewn pedair genre wahanol yng Nghymru a thu hwnt. Cynhyrchwyd gan Carreg Ateb ar gyfer BBC Radio Cymru. Pedair rhaglen 28-munud. Darlledwyd Awst 2005.

Cyfweliadau niferus ynghylch cerddoriaeth draddodiadol Cymru ar S4C, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Detholiad o Recordiadau

Artistiaid amrywiol:
Ffidil [4 trac deuawd ffidil gyda Huw Roberts] (Fflach Tradd: CD 182H), 1996

Fel aelod o’r grŵp Crasdant:
Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig: Sain SCD 2220, (1999)
Nos Sadwrn Bach: Sain SCD 2306, (2001)
Dwndwr: Sain [CD a DVD]: SCD 2487, (2005)

Mae Stephen Rees hefyd wedi ymddangos ar nifer o recordiadau masnachol a sgorau teledu/ffilm eraill yn canu’r ffidil, y cordial, chwibanoglau a’r pibgorn.

Perfformiadau o Gerddoriaeth Draddodiadol

Er 1998, mae Stephen wedi perfformio mewn mwy nag 80 o gyngherddau gyda Crasdant ar hyd a lled y DU, cyfandir Ewrop a Gogledd America.

Gweithgareddau’n gysylltiedig â pherfformio cerddoriaeth draddodiadol

Clera (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru)
Yn un o sylfaenwyr y mudiad ym 1995-96, mae Stephen wedi arwain llawer o weithdai ffidil traddodiadol trwy Gymru.

Trac (Traddodiadau Cerdd Cymru )
Aelod sefydlu; Cadeirydd cyntaf 1997-2002. Aelod o’r Bwrdd hyd heddiw.