Gyrfaoedd
Cyflwyniad
Fel graddedigion gyda gradd dda o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol bydd nifer o yrfaoedd yn agored i chi. Mae yna yrfaoedd lle mae gradd mewn Gwyddorau Biolegol yn hanfodol ac eraill lle mae gradd yn y pwnc yn darparu sylfaen ddefnyddiol.
Yn ogystal mae yna yrfaoedd sy’n agored i raddedigion ac ôl-raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gyrfaoedd mewn hyfforddi rheolaeth, cyfrifeg, addysgu, nyrsio, gwaith cymdeithasol, yr heddlu a’r fyddin. Er hyn mae cyflogwyr fel arfer yn gofyn am sgiliau trosglwyddadwy ac mae gradd Gwyddorau Biolegol yn sicr yn darparu cyfuniad unigryw o’r rhain.