Newyddion: Gorffennaf 2018

Cydnabyddiaeth am gyfraniad oes at wyddor pysgod a physgodfeydd

Mae Gary Carvalho, Athro sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medal Beverton y Fisheries Society of the British Isles (FSBI) Medal am ei ymchwil sydd wedi torri tir newydd ac am ei gyfraniad oes i wyddor pysgod a physgodfeydd.

Medal Beverton yw gwobr uchaf y FSBI ac mae’n nodi’r Athro Carvalho fel wyddonydd o bwys.  Bu’r Athro Carvalho yn mynychu Symposiwm yr FSBI  yn ddiweddar er mwyn derbyn y fedal.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2018

Mae rhai o bobl dlotaf y byd yn ysgwyddo costau gwarchod coedwigoedd trofannol

Nid ar draul tolodion y byd y mae cyrraedd targedau cadwraeth y byd. Mae honno'n egwyddor sy'n cael ei derbyn yn fyd-eang, ond mae'r astudiaeth gyntaf i gloriannu'r polisi sy'n ceisio digolledu pobl leol am gostau cadwraeth yn dangos, er y bwriadau da, mai'r tlodion sy'n colli allan.

Mae coedwigoedd trofannol yn bwysig i bawb sydd ar y blaned. Nid yn unig y mae coedwigoedd trofannol yn gartref i fioamrywiaeth hynod a phrin (fel lemyriaid Madagascar), maen nhw hefyd yn cadw swmp enfawr o garbon dan glo ac mae hynny'n helpu sefydlogi'r hinsawdd. Hefyd, mae coedwigoedd trofannol yn gartref i gannoedd o filoedd o bobl ac mae'r polisïau cadwraeth rhyngwladol yn gallu effeithio ar eu bywydau hwythau

Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2018