Newyddion: Medi 2020
Pryf a ddefnyddir fel ‘model’ gwyddonol yn cael enwau safonol ar gyfer rhannau'r corff
Er mawr syndod mewn organeb enghreifftiol a ddefnyddir at ddibenion ymchwil ac sydd wedi arwain at chwe Gwobr Nobel am ffisioleg a meddygaeth, nid oes gan y pryf ffrwythau annwyl ac nid anenwog system gyflawn o enwau anatomegol.
Câi'r pryf ffrwythau ei ddefnyddio'n helaeth fel organeb enghreifftiol i astudio geneteg, niwrowyddoniaeth, ffisioleg, datblygiad ac imiwnedd ers degawd cyntaf yr 20fed ganrif (1910) oherwydd bod ei eneteg yn gymharol syml a'i gylch bywyd yn chwim.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2020
Academydd o Brifysgol Bangor yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough
Y llynedd, datgelodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig fod tua miliwn o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad o ddifodiant. Mae rhaglen newydd gan y BBC, Extinction: The Facts, yn mynd y tu hwnt i emosiwn i ymchwilio i'r hyn y mae colli a difodiant bioamrywiaeth yn ei olygu - nid yn unig i'r blaned ond i ni fel rhywogaeth.
Roedd Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth yn yr Ysgol y Gwyddorau Naturiol, yn ymddangos ymhlith rhai o brif wyddonwyr y byd yn y rhaglen hon a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020
‘Extinction: The Facts’: Attenborough’s new documentary is surprisingly radical
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones, Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020
Gallai cregyn crancod ddarparu firwsladdwr newydd ar gyfer Offer Gwarchod Personol
Mae deunydd sy'n deillio o gregyn crancod gwastraff yn cael ei brofi i'w ddefnyddio fel firwsladdwr ar Offer Gwarchod Personol a dyfeisiau meddygol eraill.
Mae cwmni Pennotec (Pennog Cyf) o Ogledd Cymru yn gweithio gydag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu haen unigryw sydd â nodweddion hirhoedlog yn dinistrio firysau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2020
Steve Backshall i ymuno â'r tîm dysgu ym Mhrifysgol Bangor
Bydd y cyflwynydd teledu a'r fforiwr, Steve Backshall, yn traddodi cyfres o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Steve Backshall yn adnabyddus am raglenni fel Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live, a bydd yn dysgu'r myfyrwyr am gadwraeth, sŵoleg a'r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2020
This ancient Chinese anatomical atlas changes what we know about acupuncture and medical history
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw a Gwyndaf Roberts o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2020
Testun Tsieineaidd hynafol wedi ei ddadlennu i fod yn atlas anatomegol o'r corff dynol
Gellir olrhain hanes safonol anatomeg yn ôl i'r hen Roeg, ond mae dadansoddiad newydd o destun Tsieineaidd a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dadlau bod y Tsieineaid hefyd ymhlith yr anatomegwyr cynharaf.
Yn The Anatomical Record, mae Vivien Shaw ac Isabelle Winder o Brifysgol Bangor a Rui Diogo o Brifysgol Howard, UDA, yn dehongli'r llawysgrifau meddygol Mawangdui a ddarganfuwyd mewn beddrod Tsieineaidd ar ddechrau'r 1970au, fel y disgrifiad anatomegol cynharaf sydd wedi goroesi o'r corff dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2020