Mathau a hyd y cyrsiau
Graddau trwy ddysgu
Fel arfer wrth ddilyn Diplomâu ôl-raddedig a Graddau Meistr, ceir 12 mis o astudiaeth lawn-amser. Mae’r elfen gwaith cwrs yn cymryd 9 mis ac ar ôl hynny gellir dyfarnu Diploma ôl-raddedig Prifysgol Bangor. Os cyrhaeddwch safon uchel yn asesiad y Diploma, byddwch yn cael y dewis o gynnal project ymchwil o 3 mis a chyflwyno traethawd hir ar gyfer gradd Meistr. Ar y rhan fwyaf o gyrsiau Meistr mae modd dewis lefel Diploma Ôl-raddedig.
Graddau ymchwil
Graddau ymchwil yw MPhil a PhD. Mae’r rhain yn cael eu dyfarnu yn dilyn astudiaeth thesis a gyflwynir wedi cyfnod o waith ymchwil.
Mae MPhil yn dangos bod gennych y sgiliau angenrheidiol i gynnal ymchwil dan oruchwyliaeth drwy ddadansoddiad systematig o ddata sydd eisoes yn bod
Mae PhD yn dangos bod gennych y gallu a’r sgiliau ymchwil methodoleg i gynnal ymchwil wreiddiol. Bydd yn astudiaeth annibynnol, sy’n defnyddio data newydd, i ddatblygu ein dealltwriaeth ac yn ehangu ffiniau’r pwnc.
Tra bo’r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dilyn graddau ymchwil yn llawn-amser, mewn rhai amgylchiadau mae’n bosib eu cynnig yn rhan-amser. Gellwch gofrestru ar y graddau yma ar gychwyn unrhyw fis. Y cyfnod arferol ar gyfer graddau ymchwil yw:
Llawn-amser: MPhil 2 flynedd / PhD 3 blynedd
Rhan-amser: MPhil 3 blynedd / PhD 5 mlynedd
Mae’n bosib i chi gwblhau MPhil ar ôl astudio am un flwyddyn yn llawn-amser neu am ddwy flynedd yn rhan-amser. Os ydych chi’n ymgeisydd PhD gyda gradd berthnasol neu o leiaf dwy flynedd o brofiad perthnasol, mae’n bosib y bydd eich cyfnod astudio yn ddwy flynedd yn llawn-amser yn unig neu’n dair blynedd yn rhan-amser. Bydd rhaid cytuno ar y trefniant yma gyda Phennaeth yr Adran a’ch goruchwyliwr cyn cychwyn ar eich gwaith ymchwil. Disgwylir i fyfyrwyr PhD gynhyrchu a chyflwyno thesis ar gyfer asesiad o fewn pedair blynedd o gychwyn rhaglen tair blynedd.