Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg

Cloddio ger Colofn Eliseg yn ystod tymor cynharachCloddio ger Colofn Eliseg yn ystod tymor cynharachBydd Prynhawn Agored rhwng 2-5 Ddydd Sadwrn 8 Medi yn rhoi cyfle i’r cyhoedd canfod mwy am waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen. Mae archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn trydydd dymor o gloddio ar y safle rhwng 26 Awst -16 Medi 2012

Mae Project Eliseg yn defnyddio dulliau archeolegol modern i ymchwilio i’r twmpath y saif y Golofn arno a’r cyffiniau ddatgelu mwy am y Golofn, a hefyd am y twmpath neu’r ‘crug’ y saif arno.

Meddai’r Athro Nancy Edwards, o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor; “Prif amcan y project yw cyrraedd gwell dealltwriaeth am y gofeb ddirgel hon a sut y’i defnyddiwyd ac ail-ddefnyddiwyd dros amser.”

Mae Colofn Eliseg, oedd yn groes garreg dal i ddechrau, yn dal i fod yn dirnod trawiadol.  Dim ond rhan o baladr crwn y groes sydd ar ôl erbyn hyn, wedi ei osod o fewn ei sylfaen wreiddiol.  Bu unwaith arysgrif Ladin hir i’w gweld ar y groes, yn dweud iddi gael ei chodi gan Gyngen, tywysog teyrnas Powys a fu farw yn 854 O.C., er cof am ei hen daid, Eliseg a oedd wedi hel y Saeson o’r wlad. Erbyn heddiw mae bron yn amhosib gweld yr arysgrif. Saif y golofn ar dwmpath na wyddys ei oed na’i phwrpas.  Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg nid oedd y Golofn yn sefyll mwyach ond cofnodwyd yr arysgrif oedd wedi ei difrodi gan yr hynafiaethydd enwog o Gymru Edward Lhuyd.  Cloddiwyd y twmpath yn 1773 gan y tirfeddiannwr lleol Thomas Lloyd ac yn ôl y sôn daethpwyd o hyd i gist garreg yn cynnwys ysgerbwd.  Ailgodwyd y Golofn hefyd.  Cofnodwyd y digwyddiad mewn ail arysgrif ar y paladr. Ond nid yw’r safle erioed wedi bod yn destun ymchwiliad archeolegol modern.  

Canlyniad y  tymor cyntaf o gloddio yn 2010  oedd adnabod mai Carnedd Oes Efydd Gynnar oedd y twmp. Datgelwyd carnedd o gerrig, a awgrymir i fod yn garnedd palmant Oes Efydd Gynnar gyda ffos hynafiaethol o’r cloddio yn y ddeunawfed ganrif wedi cloddio mewn iddo yn Ffos A. Hwn oedd canolbwynt  gwaith cloddio 2011. Symudwyd yr aflonyddu a achoswyd gan y gwaith cloddio hynafiaethol a’r darnau crochenwaith Ôl-ganoloesol oedd ynddo. Archwiliwyd yn rhannol y twmpath na archwiliwyd o’r blaen, a oedd yn y ffos yma. Datgelodd hyn beth oedd, mae’n debyg, yn fedd cist hir o’r Canol Oesoedd Cynnar, yn ogystal â thystiolaeth yn awgrymu bod amlosgiadau wedi’u claddu yno yn ystod yr Oes Efydd. Hyn fydd canolbwynt y gwaith cloddio yn 2012.

Mae Project Eliseg o dan gyfarwyddyd yr Athro Nancy Edwards a Dr Gary Robinson o Brifysgol Bangor ynghyd â’r Athro Dai Morgan Evans a’r Athro Howard Williams o Brifysgol Caer.  Mae’r gymuned yn cymryd rhan bwysig yn y project, dan arweiniad Amgueddfa Llangollen. Noddir y project gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, y Gymdeithas Cynhanesyddol, y Gymdeithas Archaeoleg Cambria a Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth), Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer.

  Ewch at wefan y broject neu  gwyliwch ffilm (Saesneg) am y cloddio yn 2011: 

Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2012