Arthur – Arweinydd pawb

Mae’r Arthur chwedlonol yn dal i hawlio ein sylw a’n difyrru hyd heddiw, ac mae’n ymddangos fod ei apêl wedi parhau ar hyd y canrifoedd.

Dyna ddysgodd y gynulleidfa yn ystod lansiad diweddar Canolfan Astudiaethau Arthuraidd y brifysgol. Boed yn ddyn o gig a gwaed neu’n chwedl, mae Arthur y brenin neu’r arweinydd, wedi ei defnyddio gan ddiwylliannau ledled Ewrop dros y canrifoedd a fu, ac wedi cyflawni sawl swyddogaeth.

Atgoffwyd y gynulleidfa gan Dr Aled Llion Jones, o Ysgol y Gymraeg a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan, mai yn yr iaith Gymraeg y ceir y llenyddiaeth Arthuraidd gynharaf. Mae llawysgrifau cynnar megis Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Hergest yn amlinellu’r ‘Arthur Cymreig’, arweinydd dynion gyda’i wreiddiau yn yr ‘Hen Ogledd’, gogledd orllewin Lloegr erbyn hyn. Mae i chwedl Arthur gysylltiad cryf â gogledd Cymru hefyd – o Ddinas Emrys, y man lle proffwydodd Myrddin y byddai Arthur yn codi, i lefydd fel Llyn Llydaw neu Lyn Ogwen, y naill neu’r llall yn lleoliadau posib y taflwyd y cleddyf ‘Caledfwlch’ iddynt. Mae Arthur yn parhau yn y dychymyg poblogaidd fel arweinydd nad oes iddo fedd, ond sydd yn cysgu, efallai ar Ynys Enlli, ac a fydd yn dychwelyd rhyw ddiwrnod.

Meddai Aled Llion Jones: “Er bod Arthur yn amlwg yn perthyn i Gymru, ei thirlun a’i diwylliant, nid drwg o beth yw bod traddodiad Arthur wedi ei rannu ymysg sawl diwylliant.”

Traddododd yr Athro Emeritws Peter Field, a olygodd argraffiad Thomas Malory o chwedlau Arthur a ddaeth yn ffynhonnell werthfawr i ail-adrodd chwedlau Arthur gan eraill, ffynonellau gwreiddiol  Malory ar gyfer y Bwrdd Crwn.

Yn ei darlith Athrawol agoriadol, a oedd yn rhan o’r lansiad, trafododd Raluca Radulescu y cysyniad o ‘Arthur cludadwy’. Yr Athro Radulescu yw Cyfarwyddwr sefydlol y Ganolfan newydd yn yr Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ac mae’n arbenigwraig ym maes ailadrodd llenyddol a hanesyddol chwedlau Arthuraidd. Edrychodd ar y ffyrdd gwahanol y mae’r chwedlau wedi bod yn ‘hawdd i’w symud’ o’r dyfeisiadau cynharaf – rolau achyddol y canol oesoedd, llyfrau poced o chwedlau Arthur ar gyfer gwŷr bonheddig, neu dapestrïau enfawr a oedd yn cael eu cludo o lys i lys. Edrychodd hefyd ar sut mae’r chwedlau wedi troi’n ‘gludadwy’ rhwng diwylliannau a thros amser.

Meddai’r Athro Radulescu: “Er bod y chwedlau’n cynnwys gwerthoedd ‘stoc’ a gwersi moesol neu fodelau ymddygiad i’w cynulleidfaoedd a’u darllenwyr, mae llenyddiaeth Arthuraidd wedi darparu amrediad o symbolau sydd wedi eu hail-greu a’u hail-ddehongli gan genedlaethau.

“Brenin yn hytrach nag arweinydd rhyfel oedd Arthur gan yr Anglo-Normaniaid, tra yng nghyfnod y canol oesoedd hwyr, defnyddiwyd Arthur a’i farchogion i gynrychioli’r ‘traddodiad boneddigaidd’ gan ddarparu esiampl o sut y dylai’r bonedd ymddwyn yn y blynyddoedd rhwng rhyfeloedd. Yn ail-ddweud Canol-Iseldireg ac Eidaleg y Canol Oesoedd, canfyddwn fyd ffantasi sydd yn cael ei defnyddio fel modd i drafod materion cyfoes yn eu cymdeithasau perthnasol.”

Yn ogystal â dysgu'r unig radd MA mewn Llenyddiaeth Arthuraidd, mae i Brifysgol Bangor draddodiad rhyngwladol hir a rhagorol mewn ymchwil, dysgu ac ymwneud â maes astudiaethau Arthuraidd sydd yn dyddio yn ôl at sefydlu’r Brifysgol a Llyfrgell y Brifysgol yn 1884.

Mae’r Brifysgol hefyd yn gartref i gasgliad sylweddol o lyfrau yn ymwneud â llenyddiaeth Arthuraidd, gan gynnwys enghreifftiau prin o argraffiadau o’r 16 Ganrif hyd at y 19 Ganrif o destunau gwreiddiol yn ogystal ac ail-ddweud cyfoes. Mae ysgolheigion Prifysgol Bangor hefyd yn chwarae rhan ganolog yn y Gymdeithas Arthuraidd Rhyngwladol (International Arthurian Society <http://www.internationalarthuriansociety.com/british-branch/view/about-us>) ac yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae nifer o ddigwyddiadau poblogaidd iawn ar gyfer ysgolion a’r gymuned wedi eu cynnal mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Ehangu Mynediad a Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017