Banciau Bwyd ar gynnydd yng Nghymru

Bellach mae gan Gymru 157 banc bwyd, yn cefnogi pobol mewn peryg o beidio â gallu bwydo’u hunain a’u teuluoedd (data a gasglwyd Gorffennaf 2015), o gymharu ag 16 yn 1998.

Daw’r ystadegau newydd hyn o broject ymchwil gan David Beck, myfyriwr PhD Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r cynnydd yn nifer y banciau bwyd yng Nghymru yn debyg iawn i’r sefyllfa yn Lloegr.

Meddai Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mangor:

“Mae’r cynnydd yn nifer banciau bwyd wedi ei sbarduno gan fesurau diwygio lles a pholisïau llymder, yn arbennig ers cyflwyno Deddf Diwygio Lles 2012.”

Y Trussell Trust yw’r ‘darparwr’ banciau bwyd mwyaf -  ond yn ychwanegol at y banciau bwyd hyn mae rhwydwaith answyddogol o fanciau bwyd bach ac annibynnol – yn aml yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr sy’n eu trefnu eu hunain drwy elusennau bychain, sefydliadau, capeli, eglwysi neu sefydliadau crefyddol eraill.

Tan nawr, nid oes unrhyw ymchwil wedi cael ei wneud i weld faint o fanciau bwyd sydd yng Nghymru a pha bryd y bu iddynt gynyddu mewn nifer.

Mae David Beck wedi bod yn casglu gwybodaeth am fanciau bwyd, yn lle maen nhw a pha bryd y’u sefydlwyd ac mae ganddo ganlyniadau syfrdanol.

Roedd yna chwe banc bwyd annibynnol yng Nghymru rhwng 1998-2010 –  ond bu cynnydd o 616% yn y pum mlynedd nesaf hyd Orffennaf 2015, pan ddaethpwyd o hyd i 43 banc bwyd annibynnol.

Cynyddodd saith banc bwyd y Trussell Trust i 36 yn ystod yr un cyfnod. Roedd gan yr elusen dri banc bwyd dibynnol yn y cyfnod tan 2010, a bellach mae ganddynt 78:  cynnydd o 2,500%.

Mae ymchwil David yn cadarnhau bod sancsiynau budd-daliadau yn cael effaith andwyol ac yn gyrru pobol i ddibynnu ar fanciau bwyd er mwyn bwydo’r teulu. Mae’r cynnydd yn niferoedd banciau bwyd yn dilyn trywydd y mesurau llymder ers y gyllideb ddiwethaf. Mae’r rhain wedi gweld nifer uwch o bobl yn troi at fanciau bwyd, gyda’r niferoedd uchaf o bobl yn troi atynt o amgylch y Nadolig ac ym mis Medi pan mae’r angen i brynu gwisgoedd ysgol newydd yn draul ychwanegol ar gyllideb rhai teuluoedd.

Mae’r gronfa ddata newydd hefyd wedi datgelu nad ffenomen ddinesig yn unig yw’r Banciau Bwyd: yn annisgwyl, efallai, mae’r un gwasanaeth i’w gael yng nghefn gwlad Cymru. Mae banc bwyd teithiol yn gwasanaethu poblogaeth wasgaredig Ynys Môn, er enghraifft, yn cyflenwi bwyd i deuluoedd a fyddai, o bosibl, yn cael trafferth cyrraedd banc bwyd oherwydd costau teithio uchel a phrinder trafnidiaeth gyhoeddus.

“Beth bynnag eich barn ar fanciau bwyd, eu bod yn rhwyd ddiogelwch y tu draw i’r wladwriaeth les, ac yn bethau i’w croesawu fel enghraifft o’r Gymdeithas Fawr ar ei gorau, neu’n hanfod anffortunus – mae’n dda eu bod yn darparu rhwyd ddiogelwch, ond byddai’n well pe na bai eu hangen o gwbl,” meddai David Beck.

Yn ôl Dr Hefin Gwilym:

“Mae Banciau Bwyd yn ennill eu plwyf ac yn wahanol i’r cysyniad cyfarwydd o’r wladwriaeth les wrth i ddarpariaethau lles gael eu preifateiddio neu gael eu rhoi yng ngofal teuluoedd a chymunedau ar sail wirfoddol.”

Dywed Dr Hefin Gwilym hefyd nad yw’r cynnydd mewn banciau bwyd yng Nghymru yn syndod gan fod lefelau tlodi yng Nghymru wedi aros yn siomedig o uchel ar oddeutu 23%. Mae Cymru’n ymddangos fel pe bai hi’n gwneud yn waeth na rhanbarthau cyfatebol yn Lloegr, fel y gogledd ddwyrain, o ran mynd i’r afael â thlodi.

Yn ei ymchwil, canfu David Beck nad oedd defnyddwyr banciau bwyd yn eu hystyried eu hunain yn dlawd, o angenrheidrwydd, er eu bod yn byw o dan y llinell dlodi. Wrth holi pobl am eu defnydd o Fanciau Bwyd, roedd yr ymatebwyr yn aml yn adnabod pobl a oedd yn dlotach neu’n waeth eu byd na nhw’u hunain. Mae hyn yn digwydd yn benodol pan mae cymunedau cyfain wedi cael eu heffeithio – gellir dehongli hyn fel ‘gwytnwch’ neu fel bod tlodi’n cael ei normaleiddio.

Un cwestiwn diddorol sy’n codi o ganfyddiadau David Beck yw a fyddai pethau’n wahanol petai lles a nawdd cymdeithasol wedi eu datganoli i Gymru. Mae nawdd cymdeithasol o dan reolaeth Whitehall ar hyn o bryd.

Meddai Catherine Williams, Rheolwr Gweithredol BANC BWYD CAERDYDD:

“Mae Banc Bwyd Caerdydd wedi parhau i weld cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae’r galw am wasanaethau’r banc bwyd yn para’n uchel, gyda dros 4,500 o barseli bwyd wedi’u rhannu ers Ebrill 2015, gan ddarparu bwyd i 4,400 o blant. Rydym wedi cynyddu ein canolfannau dosbarthu yn y ddinas o bump i chwech ac yn gobeithio ychwanegu un y flwyddyn am y tair blynedd nesaf. Yr unig reswm dros ein gallu i ymateb i’r lefel yma o alw yw haelioni ein partneriaid, boed yn eglwysi, gwirfoddolwyr neu roddwyr. Gyda’u cymorth nhw rydym yn gobeithio parhau i ddarparu rhwyd ddiogelwch angenrheidiol i bobl yn ystod y cyfnodau pan fo angen cymorth arnynt.”

Meddai Carl Owen, Swyddog Cynhwysiant Ariannol gyda Cymunedau'n Gyntaf Môn:

“Yr hyn yr ydym yn ei weld wrth i gymunedau cyfan wynebu caledi yw cwymp yn nifer y rhoddion. Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi sefydlu rhwydwaith a phartneriaeth ymhlithy banciau bwyd ar Ynys Môn er mwyn i ni rannu adnoddau ac arferion da. Rydym angen codi ymwybyddiaeth o’r banciau bwyd a chreu ffyrdd newydd i bobol allu cyfrannu fel ein bod yn medru parhau i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen yn ein cymunedau.”

Ar 21 Mawrth, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ar y defnydd o Fanciau Bwyd yng Nghymru. Mae'r manylion yma.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016