Bangor yn ymuno â sesiwn holi ac ateb The Guardian heddiw

Mae Dr Roger Slack, Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Dulliau Ymchwilio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn  sesiwn holi ac ateb The Guardian ar gyfer myfyrwyr a graddedigion Cymdeithaseg heddiw (Mercher 18 Mai) rhwng 1.00- 4.00.

Ydach chi ar fin graddio mewn Cymdeithaseg ac yn ystyried eich opsiynau ar gyfer gyrfa? Beth allech chi ei wneud efo gradd mewn Cymdeithaseg?

Bydd Dr Slack yn ymuno â phanel i drafod y sgiliau yr ydych wedi ennill a pha gyflogwyr sydd yn eu gwerthfawrogi mewn sesiwn holi ac ateb byw ddydd Mercher 18 Mai. Cewch bostio cwestiynai yma: http://bit.ly/jjEvGN

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2011