Barney'r ci yn cael hyd i ddriffter hanner can mlwydd oed

Barney efo'i 'drysor' ar draeth Silecroft, gorllewin Cumbria.Barney efo'i 'drysor' ar draeth Silecroft, gorllewin Cumbria.Cafodd cerddwr brwd dipyn o syndod yn ddiweddar pan welodd beth oedd ei gi Barney wedi ei ddarganfod ar y traeth.

Roedd David Russell, gwerthwr wedi ymddeol o Batley, gorllewin Swydd Efrog yn cerdded ar hyd y traeth yn Silecroft ar arfordir gorllewin Cumbria, lle bydd yn mynd yn aml, pan ddaeth Barney o hyd i ddisg plastig coch gyda thag.

Yr hyn yr oedd Barney a David wedi'i ddarganfod oedd driffter a ryddhawyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am symudiad y dŵr ym Môr Iwerddon.  Ond ymddengys na ddysgodd yr ymchwilydd lawer gan y driffter arbennig hwn gan iddo fod yn y môr ers canol y 1960au!

Ni chafodd David Russell lawer o syndod gyda'i ddarganfyddiad, gan mai dyma'r trydydd peth iddo gael hyd iddo! Roedd wedi cael hyd i ddyfais arall a balŵn meteorelegol ar y traeth o'r blaen.

“Mae’n rhaid bod rhywbeth am y cerrynt sy'n cario pethau i'r traeth hwn. Pan welais y driffter hwn roedd newydd ddod i mewn gyda'r llanw, ac mae hefyd yn draeth tawel heb lawer o ymwelwyr," meddai.

Roedd tag plastig ynghlwm i'r disg yn gofyn i'r un oedd yn cael hyd iddo ei ddychwelyd gan nodi'r dyddiad a'r lle cyn mis Rhagfyr 1968 i gael gwobr o 5/- neu 25c yn yr arian ers degoli!

David Russell a Barney adref yn Swydd Efrog.David Russell a Barney adref yn Swydd Efrog.Rhyddhawyd y driffter gan John Harvey, eigionegydd wedi ymddeol a oedd yn gweithio'r adeg honno yn y Labordy Gwyddorau Môr, Ysgol Gwyddorau’r Eigion erbyn hyn.

Meddai John Harvey,

"Roedd yr ymchwil yn dweud wrthym am symudiadau gwely'r môr a'r cerrynt ar wyneb y môr ym Môr Iwerddon, a chyhoeddwyd y canlyniadau mewn cyfnodolyn gwyddonol yn 1968. Roedd tua 34% o'n driffterau yn cael eu dychwelyd gan amlaf.

Ychwanegodd: “Credaf mai'r prif ymateb i'r ffaith iddo gael ei ddarganfod a bod y rhannau plastig mewn cyflwr mor dda ar ôl bron i hanner can mlynedd, yw bod plastigau yn para mor hir yn y môr, sy'n achosi rhywfaint o bryder."

Meddai'r Athro Chris Richardson, pennaeth presennol Ysgol Gwyddorau’r Eigion:

"Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion ers dros hanner canrif wedi cyfrannu'n helaeth at ein dealltwriaeth o gerrynt a'r llanw a sut maent yn cario deunyddiau o bob maint o amgylch Môr Iwerddon ac ar hyd ein harfordir.

Y wers arall yn y fan hon yw beth sy'n digwydd i blastigau yn ein moroedd. Mae'r darn hwn wedi goroesi pum degawd yn y môr yn dda iawn, ac yn anffodus mae llawer gormod o blastig ym moroedd y byd yn gyffredinol, y rhan fwyaf ohono yn ddeunydd gwastraff na ddylai fod yno o gwbl."

Roedd disgrifiad Mr Russell o'r driffter plastig yn awgrymu ei fod wedi bod yn sownd ar rywbeth o dan y dŵr, gan fod un ochr wedi'i wisgo a'i erydu gan dywod neu gerrig yn fwy na'r ochr arall.

John Harvey a ollyngodd y driffter fel ran o'i ymchwil yma yn y 60au.John Harvey a ollyngodd y driffter fel ran o'i ymchwil yma yn y 60au.Mwy na thebyg y rhyddhawyd y driffter yn y stormydd diweddar.

Ychwanegodd John Harvey: “Cyn belled ag y gwelaf i, pan wnaeth David Russell ei ddarganfod, roedd rhannau plastig y driffter mewn cyflwr eithaf da ond roedd y pwysau copr a oedd ynghlwm iddo'n wreiddiol, fel na fyddai'n arnofio ar wyneb y dŵr nac yn cael ei chwythu gan y gwynt, ar goll a'i fod yn fwy na thebyg wedi rhydu a diflannu ar ôl bron i hanner can mlynedd."  

Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2014