Conwydden brin yn hadu am y tro cyntaf yng Nghymru

Cynnorthwydd Garddio, Rosie Barratt yn dangos hadau'r conwydden WollemiCynnorthwydd Garddio, Rosie Barratt yn dangos hadau'r conwydden WollemiMae conwydden brin o Awstralia sydd yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth, ym Mhrifysgol Bangor, wedi hadu efallai am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond yr eildro yn y Deyrnas Unedig.

Can coeden yn unig o’r pinwydd Wollemi (Wollemia nobilis) sydd yn tyfu yn ei lleoliad cynhenid mewn canion yn Awstralia.  Dim ond yn 1994 y daethpwyd o hyd i’r gonwydden.

 Mewn ymgais i achub y rhywogaeth anarferol hon, mae gwyddonwyr yn Awstralia wedi tyfu coed o doriadau.  Un o’r rhain a gafodd ei phlannu yng Ngardd Fotaneg Treborth, gan y naturiaethwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, Iolo Williams.  Dywedodd Iolo Williams ei fod “wrth ei fodd yn clywed yn newyddion”.

  Côn benywaidd.: © John Gorham Côn benywaidd.: © John Gorham“Mae’r ffaith bod y gonwydden wedi hadu am y tro cyntaf yn ein Gardd Fotaneg yn newyddion gwych i gadwraethwyr oherwydd mae’n dangos y gall y goeden hon dyfu ar wahanol ledredau ac mewn amodau hinsawdd gwahanol ar draws y byd.  Mae’r ffaith bod y goeden wedi llwyddo i hadu yma yn cyfrannu at ei goroesiad at y dyfodol ac at ein dealltwriaeth o'i hamodau tyfu" eglura Curadur Gardd Fotaneg Treborth, Nigel Brown.

 Pinwydden Wollemi: © John GorhamPinwydden Wollemi: © John Gorham“Mae’r goeden hon wedi goroesi tymheredd o 7 gradd o dan y rhewbwynt yn ystod y ddau aeaf diwethaf, ac er gwaethaf hynny mae wedi llwyddo i hadu.  Byddwn yn plannu'r hadau hynny’n awr yn yr Ardd Fotaneg.

 

 Ffeithiau am Wollemi

1. Mae Wollemia nobilis yn gonwydden ond nid yw’n binwydden - mae’n perthyn i’r teulu Araucariaceae, grŵp o gonwydd o Hemisffer y De y gwelwyd yr amrywiaeth mwyaf ohonynt yn ystod y Cyfnodau Jwrasig a Chretasig, 200-65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

2.  Erbyn hyn mae’n byw, hyd y gwyddys, mewn un rhan anghysbell o Barc Cenedlaethol Wollemi, 500,000 o hectarau o dir gwyllt yn New South Wales, Awstralia, rhan o Ardal Dreftadaeth y Byd y Greater Blue Mountains.  Saif y coed yng nghanol fforestydd glaw tymherus mewn ceunentydd tywodfaen dwfn. Cadwyd y lleoliad yn gyfrinach.

3.  Ceir llai na 100 o sbesimenau yn y gwyllt ac nid yw'r profion samplo DNA a gynhaliwyd hyd yma wedi llwyddo i ganfod unrhyw amrywiad genetig – mae’r boblogaeth i bob pwrpas yn glonau o’i gilydd.

4.  Mae'r coed talaf cymaint â 40 medr o uchder (ac o leiaf 350 blwydd oed) a'r boncyff yn fedr o ddiamedr (er bod llawer o'r coed yn prysgoedio'n naturiol gan dyfu dwsin neu fwy o foncyffion tenau).    

 

5.  Mae coed aeddfed yn cynhyrchu conau gwryw a benyw ar goesau gwahanol. Mae'r côn benyw yn wyrdd ac yn 6-12cm o hyd, 5-10cm o led, ac yn cymryd 18-20 mis i aeddfedu.  Mae’r conau gwryw'n fain, 5-11cm o hyd ac 1-2cm o led.

6. Defnyddir dulliau meithrin modern i ddarparu digon o blanhigion newydd i sicrhau y bydd Wollemia’n goroesi at y dyfodol a hefyd i fodloni galw mawr gan arddwyr am goeden sydd heb os nac oni bai yn gonwydden anarferol a hardd a fyddai'n gaffaeliad i unrhyw ardd.

7.  Mae'r goeden i weld yn wydn ac yn gallu addasu i amodau gwahanol, gan ei bod wedi goroesi mewn tywydd 5 gradd canradd dan y rhewbwynt a 45 gradd canradd ac mewn amrywiaeth mawr o fathau o bridd, er mai compost wedi ei ddraenio'n dda o pH 6 neu lai sydd orau ganddi.  Mae i weld yn addas i’w phlannu mewn twba ac yn gallu goddef haul neu gysgod.  Fel rheol mae’n tyfu tua hanner metr y flwyddyn.

8.  Y prif bla yw’r ffwng Phytophthora cinnamomi sy’n gwneud i’r gwreiddiau bydru.

9. Saif coeden Treborth yr ochr draw i’r ardd gerrig mewn safle agored. Roedd yn 120 cm o uchder pan blannwyd hi (Gorffennaf 2007) – erbyn hyn mae’n 180 cm o uchder (Medi 2012).

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012