Cragen wedi byw dros 500 o flynyddoedd

Mae ymchwil bellach yn dilyn ymweliad maes a gynhaliwyd gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn 2006 wedi ein galluogi i ganfod oedran cragen fylchog yn fwy cywir.  

Cafodd y gragen fylchog dan sylw ei chodi yn ystod mordaith gasglu data oddi ar arfordir Ynys yr Iâ a oedd yn rhan o broject yn edrych ar newidiadau hinsawdd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf.

Yng nghregyn y cregyn bylchog hyn ceir cofnodion pwysig iawn am newidiadau yn hinsawdd y môr ac mae'r gwyddonwyr sy'n ymwneud â hyn yn arbenigwyr byd-enwog yn y maes o dynnu'r wybodaeth hon o'r cregyn.

I wneud yr ymchwil caiff sbesimenau byw, yn ogystal â chregyn marw, eu casglu.  Nifer gyfyngedig a gymerir er mwyn sicrhau y bydd y gwaith yn cael yr effaith leiaf posibl ar y poblogaethau cregyn bylchog.  Cafodd y gragen fylchog hynaf y cafwyd hyd iddi ei chasglu ynghyd â llawer o rai eraill, a chan ei bod yn amhosibl pennu oed y cregyn bylchog nes agorir eu cragen, nid oedd unrhyw arwydd o'i hoedran mawr nes ar ôl i hynny gael ei wneud.  Mae'r syniad fod gwyddonwyr yn gwybod ymlaen llaw mai hon oedd yr enghraifft hynaf o'i rhywogaeth ac yna wedi ei dinistrio'n fwriadol yn gwbl anghywir. Mae cregyn bylchog yn cael eu dal yn fasnachol a'u bwyta'n ddyddiol; mae unrhyw un sydd wedi bwyta cawl cregyn bylchog yn nhaleithiau Lloegr Newydd yn America wedi bwyta cig o'r rhywogaeth hon mae'n debyg, ac mae'n bosibl bod llawer o'r rheini'n rhai cannoedd o flynyddoedd oed.      Ar sail gwybodaeth flaenorol, a'i maint, credid bod y rhywogaeth hon yn byw am tua 100 mlynedd.

Fe wnaeth dadansoddiad cychwynnol gan academyddion o'r gragen fylchog hynaf i ddod i'r golwg ganfod ei bod rhwng 405 a 410 o flynyddoedd oed.  Mae astudiaeth bellach o'r gragen fylchog hon yn ddiweddar, fodd bynnag, wedi dangos ei bod yn 507 o flynyddoedd oed.

Mae'n debygol bod enghreifftiau nodedig hen o'r rhywogaeth i'w cael yn y dyfroedd oddi ar Ynys yr Iâ gan ei bod yn ymddangos bod amodau delfrydol yno i sicrhau hirhoedledd eithriadol. Mae cregyn bylchog dros 100 oed wedi eu darganfod ym Môr Iwerddon ac ym Môr y Gogledd.

Pam felly mae'r cregyn bylchog hyn yn byw mor hen?  Taniwyd chwilfrydedd gwyddonwyr Bangor i ddarganfod hynny ac maent yn credu y gall y cregyn bylchog fod wedi datblygu amddiffynfeydd eithriadol effeithiol sy'n llwyddo i gadw'n ôl y prosesau heneiddio dinistriol sy'n digwydd fel rheol.  Os yw'r broses esblygu wedi creu organeb a all wrthsefyll difrod heneiddio'n llwyddiannus yn y math yma o gragen fylchog - a elwir 'Quahog', mae'n bosibl y gall ymchwiliad i feinweoedd y 'Methuseleaid' go iawn hyn ein helpu i ddeall y prosesau heneiddio mewn amrywiaeth o organebau, yn cynnwys pobl.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013