Cyswllt coll Bangor â choncro Everest

Charles EvansCharles EvansWrth inni gyrraedd 60 mlwyddiant concro Everest gan dîm a arweiniwyd gan bobl o Brydain, mae’n ddiddorol cofio cyswllt Bangor â’r digwyddiad dramatig hwn.

Roedd Charles Evans yn 35 oed pan ddaeth yn Ddirprwy Arweinydd ar daith enwog John Hunt ym 1953 Everest. Wedi’i eni gwta ddeufis ar ôl i’w dad golli ei fywyd ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, tyfodd Charles gyda’i fam, Edith, yn Nerwen ger Corwen yng Ngogledd Cymru. Roedd yn Gymro uniaith hyd nes ei fod yn 6 blwydd oed, ond yn Lloegr yn bennaf y cafodd ei addysg – yn gyntaf yn Ysgol Amwythig, ac yna yn Rhydychen, lle astudiodd Feddygaeth. A’i ddiddordeb mewn mynydda wedi’i annog gan Feistr yn Ysgol Amwythig, ymunodd â Chlwb Mynydda Prifysgol Rhydychen, ac roedd wedi dringo’r Alpau erbyn 1939, yn ogystal â mynyddoedd yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon. Ar ôl ymgymhwyso, a gwasanaethu ym Myrma yng nghorfflu meddygol y fyddin, symudodd i Lerpwl, i fod yn Gofrestrydd Llawfeddygol.

Fodd bynnag, y mynyddoedd oedd ei gariad cyntaf, ac ymunodd â Chlwb y ‘Wayfarers’ yn Lerpwl a chael ei ethol i Glwb yr ‘Alpine’ ym 1948. Buan yr enillodd enw da iawn fel mynyddwr, gan gymryd rhan mewn teithiau i Fynyddoedd Himalaia – i Annapurna (1950), Deo Tibba (1951) a Cho Oyu (1952). Yn ddyn tawel a phreifat, ymddangosai fel pe bai’n pelydru nerth a dewrder. Nid syndod oedd iddo gael ei ddewis yn Ddirprwy Arweinydd ar y daith i Everest. Ymhen llawer o flynyddoedd, ysgrifennodd Michael Westmacott, un o dîm Everest, fod ei arweinyddiaeth yn ddiymhongar ond yn feistrolgar.

Cafwyd sawl taith i Everest yn y 1920au a’r 1930au, a George Mallory wedi diflannu am byth ar un ohonynt, ym 1924, i eira a niwl y mynyddoedd. Fodd bynnag, gwnaeth taith 1953 hanes. Tua diwedd Mai 1953, bron i fis ar ôl sefydlu’r Gwersyll Cychwyn, cyrhaeddodd y tîm Fwlch y De – ar 26,000 o droedfeddi ac, ar ôl croesi rhew ac eira peryglus, roedd hon yn gamp o bwys mawr. Y pryd hynny y dewisodd Hunt ddau dîm i fynd ymlaen at y copa. Charles Evans a Tom Bourdillon roddodd y cynnig cyntaf, ar 26 Mai 1953. Pan oeddent o fewn 300 troedfedd i’r copa, cymerodd Evans y penderfyniad tyngedfennol i droi’n ôl oherwydd diffyg ar yr offer ocsigen. Ymhen deuddydd, rhoddodd Edmund Hillary a Tensing Norgay ail gynnig arni – ac am 11.30am ar 29 Mai, hwy oedd y bobl gyntaf i gyrraedd y copa uchaf ar y ddaear.

Charles Evans (chwith) ac Edmund Hillary.Charles Evans (chwith) ac Edmund Hillary.Hon oedd oes aur mynydda, a phan dorrodd y newydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cafodd anferth o gyhoeddusrwydd ar draws y byd – nid yn wahanol iawn i’r effaith a gafodd y glaniad ar y lleuad ym 1969.  Cael eu croesawu fel arwyr oedd hanes tîm Everest pan ddychwelsant i Lundain. Urddwyd Hillary a Hunt yn farchogion a chafodd Tensing Fedal Siôr. Cynhaliwyd derbyniadau ym Mhalas Buckingham, yn Lancaster House ac mewn mannau eraill. Anrhydeddwyd y mynyddwyr lle bynnag yr aethant – ac eithrio Charles Evans, na ddychwelodd ar ei union i Lundain ond, yn hytrach, ac mewn modd nodweddiadol ohono’i hun, ymadael yn dawel am Nepal i wneud mwy o ddringo. “Fyddai dim gwahaniaeth gen i gael parti fy hun”, ysgrifennodd at ffrind ar y pryd, “ond byddai’n well gen i fod ar y mynyddoedd.”

Y flwyddyn ddilynol, arweiniodd Evans dîm i gopa Kangjenchunga, y trydydd copa i’r uchaf ar Fynyddoedd Himalaia, sef, yn ôl Jim Perrin, y gamp fwyaf gan fynyddwyr o Brydain yn y ddegawd, o bosibl. Fodd bynnag, taith gan ddau ddyn i Annapurna IV ym 1957 fyddai taith olaf Charles Evans. Ym 1958, rhoddodd y gorau i feddygaeth i ddod yn Brifathro ar y Brifysgol ym Mangor (‘Coleg Prifysgol Gogledd Cymru’ fel yr oedd ar y pryd) – penodiad annisgwyl ar lawer i ystyr. Tua’r un adeg, dechreuodd ei alluoedd corfforol ddirywio; cafodd ddiagnosis o sglerosis ymledol ac, o fewn ychydig flynyddoedd yn unig iddo ymgymryd â’i swydd, roedd yn defnyddio cadair olwyn yn gyson. 

Deuai Charles Evans yn Llywydd ar Glwb yr ‘Alpine’ o 1967 hyd at 1970, ac urddwyd ef yn farchog ym 1969 ond, ac yntau ond yn 40 oed, roedd ei ddyddiau fel mynyddwr ar ben.

Gan Dr David Roberts
Cofrestrydd

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013