Grant Ymchwil Gwyddorau Eigion i astudio crychdonnau ar fflatiau llaid a thraethau

Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau mân hyn eu symud gan gerrynt dŵr yn y parth arfordirol, a sut gallai’r symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.

Cyllidir y project ymchwil ar y cyd hwn, o’r enw COHBED, gan y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol (NERC). Bydd yn ymchwilio i sut y mae presenoldeb mwd ‘gludiog’ cydlynol mewn gwaddod tywodlyd yn dylanwadu ar erydu, cludo a dyddodi’r gwaddod cymysg hwn mewn moroedd ac afonydd. 

“Mae’r Deyrnas Unedig yn genedl arfordirol gyda’r rhan fwyaf o bobl yn byw o fewn ychydig filltiroedd i’r môr. Ceir hyd i fwd a thywod mewn llefydd lle mae egni’r tonnau, llanw a llif afonydd yn isel, a gellir dyddodi’r gwaddodion hyn a gludir gan ddŵr ar wely’r môr. Mae cynefinoedd mwdlyd a thywodlyd yn bwysig iawn ar gyfer ecoleg ac economi Prydain. Maent yn darparu bwyd ar gyfer llawer o rywogaethau o adar a physgod, ond hefyd yn gwarchod  yr arfordir rhag grymoedd erydol y môr. Maent hefyd yn gweithredu fel ffilter, lle caiff llygryddion o’r afonydd eu dal a’u diraddio yn y pen draw. Oherwydd pwysigrwydd y systemau hyn, mae eu hymddygiad naturiol a’u sefydlogrwydd yn bryder cynyddol fel y mae lefelau’r môr yn codi gyda newid mewn hinsawdd”, eglura Dr Jaco H. Baas, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Phrif Ymchwilydd y project.

Ychwanega Dr Baas: “Y prif reswm dros sefydlu’r project hwn yw nad oes gennym lawer o wybodaeth wyddonol i’n helpu i ragfynegi sut bydd traethau a fflatiau llaid  naturiol yn ymateb i rymoedd newidiol y llanw, y gwynt a’r tonnau.  Pan fydd dŵr yn llifo dros wely’r môr, mae egni’r llif yn siapio’r gwaddod yn arweddion tonnog, fel crychdonnau. Mae’r hyn a elwir yn ‘wely-ffurfiau’ (bedforms) yn helpu i reoli erydiad a chludiant tywod, mwd, maetholion a llygryddion bob diwrnod, ond hefyd mewn cyfnodau o stormydd, llawer iawn o law a llifogydd arfordirol.”

“Mae gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i ragfynegi maint a symudiad gwely-ffurfiau yn hanfodol ar gyfer llawer o ddisgyblaethau amgylcheddol, fel rheoli’r amgylchedd, peirianneg hydrolig, bioleg cynefin benthig, modelu cyfrifiadurol o gludo gronynnau a daeareg waddodol. Fodd bynnag, ceir diffyg gwybodaeth lwyr bron iawn am wely-ffurfiau sy’n cynnwys cymysgedd o dywod a mwd. Rydym yn gwybod bod gwaddodion tywodlyd yn ‘anghydlynol’, oherwydd nid yw’r gronynnau tywod yn glynu â’i gilydd, tra bo mwd wedi’i greu o ronynnau llai sy’n glynu â’i gilydd, ac felly fe’i gelwir yn waddodion ‘cydlynol’. Mae’r gwahaniaeth hwn yn un o dargedau astudiaeth y project COHBED.”  

Mae’r project COHBED yn gydweithrediad ag ymchwilwyr o’r National Oceanography Centre yn Lerpwl (Yr Athro Peter Thorne), a Phrifysgolion Leeds (Dr Daniel Parsons), Plymouth (Dr Sarah Bass) a St Andrews (Yr Athro David Paterson), gyda phob un yn cyfrannu eu harbenigedd penodol mewn ffiseg, mathemateg, gwaddodeg a bioleg at y project. Mae cyfanswm y gyllideb ychydig o dan £1 miliwn; bydd hyn yn helpu i gyflogi pump o Ymchwilwyr Ôl-ddoethurol yn ystod gwahanol gamau’r project tair blynedd, yn ogystal ag un myfyriwr PhD.

Daeth y project COHBED yn gydradd ail yng nghynllun Grantiau Safonol diweddaraf  y Cyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol. Daw’r grant, ym maes gwaddodeg, yn dilyn y ‘hat trick’ diweddar o lwyddiannau mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Gwneir rhan fawr o’r ymchwiliadau hyn drwy efelychiadau llif yn Labordy Hydrodynameg yr Ysgol Gwyddorau Eigion a gwaith ar long yn Aber Afon Dyfrdwy.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2011