Gweithio i ddiogelu'r cyhoedd yn erbyn firysau a bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau

Ymhle yn ein dyfrffosydd y ceir firysau a bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau a pha mor hir y maent yn byw?

Heddiw (14 Mawrth) yn y Royal Geographic Society yn Llundain mae gwyddonwyr sy'n gweithio i leihau'r risgiau i'r cyhoedd drwy ddod i gysylltiad â bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn yr amgylchedd dŵr yn cyfarfod i rannu eu hymchwil a thrafod y camau nesaf.

Firysau yw un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd pobl. Gwyddom y gallant fod yn y bwyd rydym yn ei fwyta, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw eu hunion daith o ddŵr gwastraff i bysgod cregyn neu ffrwythau a llysiau.  

Daw bygythiad arall i'n hiechyd o du bacteria sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. Mae'r rhain yn digwydd yn naturiol yn yr amgylchedd, ond maent i'w cael hefyd mewn tail a charthion sy'n deillio o ddefnydd gwrthfiotigau mewn pobl neu anifeiliaid.

Mae'r gwyddonwyr yn cyfarfod ag ystod o asiantaethau llywodraeth, cyrff cyhoeddus a chwmniau preifat, fel y gallant nid yn unig rannu eu modelu a darganfyddiadau cyfredol, ond hefyd drafod beth sydd angen i'r diwydiant a rheoleiddwyr ei wneud er mwyn lleihau risg i'r cyhoedd.

Mae'r ddau broject ymchwil sy'n cael eu trafod yn rhan o raglen Microbioleg Amgylcheddol ac Iechyd Dynol NERC i roi'r dystiolaeth wyddonol i alluogi adnabod micro-organebau pathogenaidd a deunydd biolegol yn yr amgylchedd yn gyflym ac effeithlon.  

Nod project VIRAQUA, sydd wedi'i leoli ym mhrifysgolion Bangor a Lerpwl, yw darganfod sut mae firysau sy'n ein gwneud yn sâl yn mynd i'n cadwyn fwyd (gan roi sylw arbennig i hylendid pysgod cregyn), pa mor hir mae'r broses yn ei gymryd a beth sy'n digwydd ar y ffordd.  

Meddai Dr Kata Farkas, prif wyddonydd ymchwil VIRAQUA yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor: 

“Fe wnaethom ddatblygu ffyrdd o ddarganfod y firysau yn yr amgylchedd a all ein gwneud yn sâl. Gellir safoni'r dulliau hyn yn awr a'u defnyddio gan yr awdurdodau i ddibenion monitro. Mae hyn yn bwysig gan y gall y canlyniadau gael eu cymharu wedyn a'u gwirio'n hawdd.

Fe wnaethom ddarganfod bod y firysau hyn, megis norofirws - a elwir hefyd yn haint chwydu'r gaeaf - yn aros mewn dŵr am gyfnod hir, gan deithio gyda'r llif a'r cerrynt. Mae hyn yn cyfrannu at ledaenu haint.  Gan ddefnyddio technolegau moleciwlaidd diweddaraf rydym hefyd yn darganfod firysau diddorol a newydd ac yn ymchwilio p'un a all y firysau hynny heintio pobl."

Mae canlyniadau o'r project wedi cael eu bwydo i fodelau mathemategol a all ragweld sut mae'r firysau'n teithio drwy'r amgylchedd o le trin dŵr gwastraff i'r môr. Drwy ddefnyddio'r cymhorthion gweledol hyn, gellir nodi mannau risg uchel a all arwain at newidiadau mewn ymdrochi neu gynaeafu pysgod cregyn, gan arwain at amgylchedd diogelach yn gyffredinol ac amddiffyn iechyd pobl.   

Ychwanegodd Dr Kata Farkas: "Dros y degawd diwethaf, ymchwiliwyd i firysau newydd sy'n dod i'r amlwg, megis y firws Zika. Ymysg y firysau hyn, mae llawer yn bathogenau dynol sy'n achosi afiechydon mewn gwledydd sy'n datblygu a gwledydd datblygedig, yn cynnwys y DU. O ganlyniad i lygredd byd-eang, mae'r firysau hyn i'w cael yn aml yn yr amgylchedd, gan arwain at afiechydon yn ddeillio o ddŵr a bwydydd."

Ychwanegodd Dr Evelien Adriaenssens, sy'n arwain gwyddonwyr ymchwil VIRAQUA ym Mhrifysgol Lerpwl: "Ar hyn o bryd mae yna fwlch gwybodaeth enfawr ynghylch llawer grŵp o firysau, oherwydd eu bod yn anodd i'w meithrin neu oherwydd nad oes gennym ddigon o wybodaeth ynghylch eu hamrywiaeth. Felly rydym wedi troi at ddulliau megis metafiromeg, sy'n ddadansoddiad ar sail dilyniant o'r holl firysau a geir mewn amgylchedd. Mae datblygiadau diweddar mewn technolegau dilyniannu yn golygu y gallwn ddefnyddio'r dulliau metafiromeg hyn i astudio firysau mewn unrhyw amgylchedd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o ba firws sy'n bresennol. Hyd yma, rydym wedi medru canfod presenoldeb nifer luosog o firysau pathogenaidd posibl, megis norofirws, sapofirws a rotafirws, mewn dŵr gwastraff, ac rydym yn ymchwilio ar hyn o bryd i weld a yw'r firysau hyn yn teithio drwy systemau afonydd ac aberoedd i gyrraedd traethau ymdrochi a gwelyau pysgod cregyn." 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2018