Gwyddonwyr o Fangor i Gryfhau Gwarchodfa Fôr Fwyaf y Byd

Mae arbenigedd o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor – Ysgol o fri rhyngwladol – yn mynd i gyfrannu at fonitro ac arolygu gwarchodfa fôr fwyaf y byd, sy’n amgylchynu rhes o ynysoedd bach iawn yn Nhiriogaeth Brydeinig Ynysfor Chagos yng Nghefnfor India.

Rhan o Ynysfor ChagosRhan o Ynysfor ChagosDdwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Ynysfor Chagos yn warchodfa fôr gaeth, sy’n golygu na chaiff neb fynd â phlanhigion nac anifeiliaid oddi yno na newid eu cynefinoedd. Mae’r Warchodfa yn ymestyn dros 250 miliwn o filltiroedd sgwâr, a hi yw’r Warchodfa Fôr fwyaf yn y byd hyd yma.  Hon yw’r drydedd o chwe ardal forol sydd wedi’u gwarchod y bu Grŵp Amgylcheddol Pew yn ymgyrchu drostynt, ac a adwaenir fel Gwarchodfeydd Môr Etifeddol. 

Y sialens yn awr yw canfod y ffordd orau o reoli Gwarchodfa Fôr Chagos. Mae Menter Darwin DEFRA (Department for Environment, Food & Rural Affairs) wedi dyfarnu grant o £287,788 i Brifysgol Bangor, er mwyn cryfhau Gwarchodfa Fôr Chagos trwy ddarparu gwybodaeth wyddonol ar gyfer rheolaeth effeithiol, ac i ddatblygu strategaeth sy’n ennill cefnogaeth budd-ddeiliaid posibl trwy estyn braich, addysgu ac ymgysylltu. Ceir rhai o’r riffiau cwrel mwyaf digyffwrdd  o gwmpas Ynysfor Chagos.  Mae crwbanod môr yn nythu, crancod ysbeilio mawr ac adar môr yn byw ar yr ynysoedd, ac mae tyrau o gwrel yn codi o’r môr-lynnoedd, gan ddarparu cynefin ar gyfer heigiau dwys o bysgod.  Mae morgwn, cathod môr a dolffiniaid troelli (Spinner) yn ymwelwyr mynych â’r riffiau atol, sy’n disgyn i ddyfroedd dwfn, heb eu fforio, sydd â mynyddoedd môr a gwastadeddau môr dwfn.

Cragen Fylchog FawrCragen Fylchog FawrYn awr, bydd Dr John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor yn arwain rhaglen ymchwil 3 blynedd, werth £554,553, gyda’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, Cymdeithas Sŵolegol Llundain, a Phrifysgol Warwick, a rhan helaeth o’r cyllid yn dod o Fenter Darwin y DU, gyda chyllid ychwanegol o’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a sefydliadau cadwraeth.

Meddai Dr John Turner: ‘Mae’r DU yn y 13eg safle o’r holl genhedloedd, o ran arwynebedd riffiau cwrel, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd y Chagos, ond nid oes llawer o ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â’r fioamrywiaeth sydd bron heb ei difetha o gwbl. Mae Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India wedi’i lleoli i’r de o Ynysoedd y Maldives, a cheir 5 atol cwrel gyda 54 yn y golwg, o 12 o lannau suddedig.  Nid oes neb yn byw ar yr un o’r ynysoedd hyn, ac eithrio atol Diego García, lle ceir canolfan o eiddo Llynges UDA. Mae’r diriogaeth yn cynnwys rhyw 50% o riffiau cwrel iachaf Cefnfor India, yn cynnwys atol mwyaf y byd, a 60,000 km2 o gynefinoedd dŵr bas.  Mae llawer o rywogaethau mudol, megis morfilod, siarcod, crwbanod ac adar môr yn defnyddio dyfroedd y warchodfa. Ceir 76 o rywogaethau dan fygythiad o fewn y Chagos (Rhestr Goch IUCN), yn cynnwys crwban môr gwalchbig, gwylan fawr traed coch, morgi sidanaidd, cranc cnau coco, a thiwna llygaid mawr, fel bod hwn yn lloches ac yn safle cyfeirio o bwysigrwydd rhyngwladol.

Dolffiniaid TroelliDolffiniaid TroelliRoedd pobl yn byw ar yr ynysoedd o 1700 tan 1970 ar gyfer planigfeydd cnau coco ond, oddi ar hynny, nid oes bodau dynol yno, fel bod poblogaethau adar a chrwbanod môr wedi ymadfer to nes eu bod yn boblogaeth o bwys rhyngwladol. Mae llygod mawr a phlanigfeydd wedi gordyfu yn cyfyngu ar adferiad ym mhob ardal, ac mae potsian crwbanod môr, morgwn a chiwcymbrau môr yn parhau i achosi pryder. Fodd bynnag, daw’r bygythiadau mwyaf o bysgota masnachol, datblygiad ar yr ynysoedd, ac effeithiau newid hinsawdd, megis cynnydd yn nhymheredd y môr, codiad yn lefel y môr, asideiddio ar y cefnfor, ac erydiad y riffiau. Mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cylchgrawn Aquatic Conservation, mae 42 o wyddonwyr yn egluro gwerth Gwarchodfa Fôr y Chagos, fel lloches a hefyd fel safle cyfeirio ar gyfer ymchwil i effaith newid hinsawdd, ac yn pwysleisio’r angen i weithredu ar frys i sefydlu gwaelodlin er mwyn mesur newid a chyfyngu ar effeithiau yn y dyfodol.

Mae Dr Turner, un o awduron y papur, yn egluro mai gwarchod bioamrywiaeth ar draws amrywiaeth o ecosystemau, o fôr dwfn i ynysoedd fydd y buddiannau yn y tymor hir, ac mae amrediad a graddfa’r Warchodfa yn awgrymu y bydd y buddion yn arwyddocaol ar raddfa gefnforol, ac y gall y cymunedau yn rhai o’r gwledydd tlotaf o gwmpas Cefnfor India gael bydd os gwarchodir stoc o rywogaethau â chydbwysedd genynnol a all gyflwyno rhai ifainc ac oedolion i ranbarthau sydd heb eu gwarchod.’

Mae grwpiau sy’n cynrychioli’r bobl a arferai fyw ar yr ynysoedd o blaid y bwriad i greu Gwarchodfa, r yr amod nad yw’n rhagfarnu eu hawl i ddychwelyd yno rywbryd. Cydnabyddir y posibilrwydd o drigfannau dynol yn y dyfodol, a hynny’n amlygu’r angen am wybodaeth ddechreuol er mwyn rheoli’r effaith a gâi bodau dynol ar fioamrywiaeth a chynhyrchiant. Mae Project Darwin yn cynnwys rhaglen estyn braich, addysg a hyfforddiant ynglŷn â gwarchod ac adfer yr ynysoedd a’u hadnoddau. Codir ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth gyfoethog y DU, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ddangos sut y gall Gwarchodfeydd Môr Etifeddol mawr warchod ecosystemau a chyflawni swyddogaeth safleoedd cyfeirio byd-eang, i gynorthwyo i ddeall newid amgylcheddol.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2012