HPC Cymru ym Mangor
Mae Prifysgol Bangor yn bartner ym mhroject Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Cymru (HPC Cymru), project Cymru gyfan gwerth £40M (a ariennir yn rhannol gan Raglenni Cydgyfeiriant ERDF ac ESF Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd ac Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Llywodraeth y DU). Project i greu rhwydwaith cyfrifiadura perfformiad uchel o’r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru yw hwn, i ddarparu ymchwil arloesol, datblygu sgiliau ar lefel uchel a TGCh gweddnewidiol er budd economaidd eang.
Mae HPC Cymru yn cynnig nifer o bosibiliadau i staff academaidd ym Mangor wella eu cynnyrch ymchwil a chydweithio masnachol. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:
- Mynediad at adnodd HPC o safon fyd-eang
- Mynediad at efrydiaethau PhD
- Cymorth technegol i’ch helpu i roi eich projectau ar y system
- Mentora a chefnogaeth allgymorth i’ch helpu i ddatblygu cysylltiadau â chyrff masnachol
- Cefnogaeth i helpu defnyddwyr y mae’r gwyddorau cyfrifiadurol yn hollol newydd iddynt, i ddod yn gyfarwydd â HPC
- Cyfleoedd hyfforddi ac uwchsgilio perthnasol
Adnoddau HPC
Mae HPC Cymru yn y broses o osod caledwedd ym mhrifysgolion yng Nghymru. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y cyfanswm pŵer cyfrifiadurol fydd ar gael yn rhoi HPC Cymru ymysg y 50 safle uchaf yn fyd-eang, felly bydd pŵer cyfrifiadurol sylweddol iawn ar gael i ymchwilwyr a chyrff masnachol ledled Cymru.
Mae'r peiriant lleol ym Mangor eisoes ar waith, ac yn cynnwys 648 Intel Xeon (Westmere) o greiddiau 2.66GHz, bron i 2TB o gof a 10 Tbyte o storfa leol. Ond gellir cael mynediad at y system HPC Cymru gyfan, gan gynnwys systemau mwy ar gyfer gwaith cynhyrchu trwm, naill ai trwy fewngofnodi’n uniongyrchol dros gysylltiad rhwydwaith campws perfformiad uchel penodol, neu drwy SynfiniWay, sy'n darparu rhyngwyneb gwe graffigol ac yn ddelfrydol i ddefnyddwyr sy'n newydd i HPC.
Efrydiaethau PhD
Dewiswyd Fujitsu fel partner technoleg HPC Cymru i greu’r rhwydwaith ac i gefnogi gwaith ymchwil a hyfforddiant y project. Fel rhan o'u cyfraniad hwy at y project, mae Fujitsu yn ariannu ~20 PhD yn y prifysgolion partner. Mae saith o'r efrydiaethau hyn eisoes wedi eu dyfarnu mewn meysydd fel cynhyrchu ynni ar y môr, modelu newidiadau yn yr hinsawdd, archwilio cronfeydd olew a nwy a’u genomeg, ac mae dau o'r efrydiaethau’n dod i Fangor.
Rydym yn awr yn falch o gyhoeddi y bydd saith efrydiaeth PhD arall yn cael eu neilltuo ar sail cystadleuaeth ar draws Cymru. Rhaid cyflwyno’r ceisiadau erbyn 17:00 ar 31 Mai, 2012 gan ddefnyddio'r ffurflen ‘HPC Wales - Fujitsu Studentship Application Form’. Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu gan bwyllgor dethol fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r prifysgolion, HPC Cymru a Fujitsu, a bydd eu penderfyniad yn derfynol. Ceir arweiniad ar y meini prawf asesu yn y ddogfen ‘HPC Wales - Fujitsu Studentship Application Evaluation Guidance’. Rhagwelir y bydd tua 50% o'r efrydiaethau’n cael eu dyfarnu yn y meysydd sydd o ddiddordeb arbennig i Fujitsu.
Mae galwad swyddogol HPC Cymru i’w weld yn http://www.hpcwales.co.uk/fujitsu-studentships-in-high-performance-computing2
Mae’r ffurflen gais ar gael yma, a'r dogfennau cyfarwyddyd yma.
Yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mai, byddwn yn cynnal nifer o seminarau anffurfiol yn ystod amser cinio i gyflwyno’r cyfleoedd a gynigir gan yr efrydiaethau hyn a sut i wneud cais amdanynt, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Yn dibynnu ar y galw, y bwriad ar hyn o bryd yw cynnal seminarau yn y lleoliadau canlynol:
- Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhorthaethwy (Coleg Gwyddorau Naturiol), 8ed Mai, 13:00-14:00, Ystafell Seminar Denis Crisp, Craig Mair
- Ysgol Busnes (Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith / Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau / Coleg Addysg a Dysgu Gydol Oes), 10ed Mai, 13:00-14:00, A1.06, Alun
- Brigantia (Coleg Iechyd a Gwyddorau Ymddygiad), 9ed Mai, 13:00-14:00, Ystafell 230, Adeilad Brigantia
- Stryd y Deon (Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol / Coleg Gwyddorau Naturiol) ar 11ed Mai, 13:00-14:00 in DS-120, Stryd y Deon
Cysylltwch â Laura Redfern (laura.redfern@hpcwales.co.uk, 07985 771287) i nodi eich diddordeb mewn seminar, neu i gael cymorth i lenwi'r ffurflen gais ac i ddod o hyd i bartner cydweithio. Gall Phil Lane (p.lane@bangor.ac.uk, 07739 473542) roi arweiniad am y broses ddethol a’r meini prawf a sut i gyflwyno’ch cynnig i roi’r siawns gorau i chi o lwyddo.
Cefnogaeth a Chymorth Technegol
Mae aelod o staff HPC Cymru wedi ei leoli’n llawn amser ym Mangor. Mae’n gyfrifol am weithredu caledwedd Bangor, cyd-reoli rhwydwaith Cymru gyfan a rhoi cymorth i ddefnyddwyr o bob lefel gallu wrth iddynt fynd ar y system.
I drafod unrhyw agwedd dechnegol ar broject HPC Cymru, cysylltwch ag Ade Feweings, ade.fewings@hpcwales.co.uk.
Mentora a Chefnogaeth Allanol
Gweithgarwch adfywio economaidd yw HPC Cymru’n bennaf, ac mae’n rhaid i bob project wneud cyfraniad at dargedau allbwn HPC Cymru trwy fod mewn cysylltiad â chydweithiwr priodol, busnesau bach a chanolig, fel rheol, sy’n gweithredu yn rhanbarth cydgyfeirio gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae Laura Redfern (laura.redfern@hpcwales.co.uk, 07985 771287) yn aelod arall o staff HPC Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mangor i helpu creu cysylltiadau â chwmnïau a sefydliadau lleol a allai fod o fudd uniongyrchol i chi a’ch gwaith ymchwil. Gall Bryn Jones, bryn.jones@bangor.ac.uk, yn y Swyddfa Ymchwil ac Arloesi hefyd helpu gyda'r broses hon.
Defnyddwyr sy’n newydd i faes Gwyddorau Cyfrifiadurol
Nid oes gan rai meysydd ymchwil gysylltiad amlwg â gwyddorau cyfrifiadurol, er bod modd cael budd sylweddol drwy ddefnyddio HPC mewn ffyrdd arloesol. Byddwn yn datblygu ac yn gweithio drwy amrywiaeth o lwybrau i adnabod defnyddwyr o'r fath, ond yn y cyfamser, os hoffech gael gwybod mwy am HPC Cymru, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o'r unigolion a nodir uchod.
Gwybodaeth bellach
Mae croeso i chi ail-ymweld â'r wefan hon i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd a gweithgareddau HPC yma ym Mangor. Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.
Ceir gwybodaeth bellach am HPC Cymru a'i weithgareddau yng Nghymru ar wefan y project: www.hpcwales.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012