Mesur llwyddiant adferiad gweundir

Mike Peacock yn hel data yn y maesMike Peacock yn hel data yn y maesMae Prifysgol Bangor yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn project uchelgeisiol i adfer yr ail fawnog i’r mwyaf yng Nghymru sydd hefyd yn ardal cadwraeth arbennig a ddynodwyd gan Ewrop.

Dros amser, byddir yn llenwi rhwydwaith o 400 milltir o ffosydd ar y Migneint, rhwng Ffestiniog a Llanrwst, er mwyn er mwyn adfer y gweundir i’w gyflwr naturiol. Torrwyd y ffosydd dros y canrifoedd, er mwyn gwella draenio a chael rhagor o dir amaethyddol, ac er mwyn saethu grugieir. Mae’n bosib eu bod bellach yn cyfrannu at y carbon a ollyngir i’r awyr.

Y nod yw lleihau’r carbon sy’n cael ei ryddhau o’r mawn wrth iddo sychu. A mesuriadau eisoes wedi’u cymryd cyn i’r gwaith gychwyn, bydd y gwaith mesur yn parhau am bedair blynedd, er mwyn asesu effeithiolrwydd y gwaith adferol.

Myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Bangor, Michael Peacock, sy’n gwneud y gwaith, gan gydweithredu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS – am ragor o fanylion ewch i http://www.bangor.ac.uk/kess/index.php.cy). Ar ben hynny hefyd, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru hwythau’n gyfranogol.

Mae mawnogydd yn dal swm enfawr o garbon deuocsid, wedi’i gloi yn y priddoedd dyfrlawn. Amcangyfrifir bod cyfwerth â 35 o flynyddoedd o allyriadau carbon deuocsid wedi’i gloi ym mhridd mawnog ein gweundiroedd. Ond mae’r carbon deuocsid yn cael ei ollwng – ac amheuir mai’r sychder a’r cynnydd mewn tymheredd yn sychu’r ucheldiroedd sydd ar fai.

Meddai Trystan Edwards, ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n berchen y tir:

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn chwilio am ffordd i brofi bod modd cadw’r carbon o fewn y mawn, ac rydym wrth ein boddau i gydweithio â Phrifysgol Bangor drwy broject ymchwil Michael. Mae’r cyfnod presennol o gau’r ffosydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan project LIFE Ewropeaidd, sy’n cael ei weinyddu gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar.”

Mae’r Migneint yn cynnwys bron i 200km², a’r Ymddiriedolaeth yn berchen ar oddeutu 8,000 acer. Bydd yr ymchwil yn caniatáu mesuriadau er mwyn canfod faint o garbon sy’n cael ei golli oherwydd y ffosydd. Ar ben hynny, mae’n bosib y byddai’n ddichonol i gredydau carbon cael eu cynhyrchu i’r Ymddiriedolaeth oherwydd y gwaith llenwi’r ffosydd. Gall y rhain gael eu defnyddio i ail-fuddsoddi mewn gwaith adferol ar y gweundir anferth.

Cau ffosydd yw’r modd poblogaidd o adfer tiroedd mawnog i’w cyflwr gwreiddiol, ond mae ansicrwydd yn parhau ynglŷn â’r effaith a gâi hyn ar y cylch carbon drwyddo draw. Wrth gofnodi a dadansoddi canlyniadau’r mesuriadau o garbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau o’r pridd a’i gario yn y dŵr, yn ogystal â’r lefelau dŵr, rhediad dŵr a lefelau glaw dros sawl blwyddyn, gall y project asesu a yw cau ffosydd yn achosi i diroedd mawnog gadw mwy o garbon deuocsid, ynteu’n gyfrifol am ei ryddhau ac am ryddhau methan i’r awyr.

Meddai Michael Peacock, “Mae chwe mis o ddata dechreuol gennym erbyn hyn. Fel y mae’r gwaith i gau’r ffosydd yn cychwyn, byddwn ninnau’n cychwyn ar o broses fwy hirdymor o fonitro i weld faint o garbon, os o gwbl, sy’n cael ei ryddhau i’r awyr.”

Meddai’r Athro Chris Freeman o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, “Disgwylir y bydd canlyniadau Michael yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ni, a fydd yn dangos a yw cau’r ffosydd yn dechneg adferol sy’n rhoi ystyriaeth i’r amgylchedd. Bydd yr ymchwil yn edrych ar wahanol ffyrdd o gau’r ffosydd i ganfod pa un sydd orau ar gyfer cadw’r carbon. Gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio yng nghyswllt projectau cyffelyb ar draws y DU.”

Un project yw hwn ymhlith sawl project PhD KESS ym Mhrifysgol Bangor sy’n edrych ar effeithiau carbon ar yr amgylchedd.

“Dewisais wneud fy Noethuriaeth ym Mangor gan fod gan y Brifysgol enw da am fiocemeg ddaearyddol tir mawnaidd, ac roeddwn yn gwybod y byddwn yn derbyn y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf gan fy arolygwr ar gyfer y PhD, Yr Athro Chris Freeman,” esboniodd. Roedd hefyd yn sylweddoli ei bod yn hawdd cyrraedd sawl lleoliad gwaith maes perthnasol nid nepell o’r Brifysgol.

Mae Michael yn 25 a daw o St Helen’s, Glannau Mersi. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Carmel, St Helen’s cyn graddio mewn Sŵoleg a mynd ymlaen i ennill MSc mewn Ecoleg o Brifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011