Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr

Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.

Ar ôl casglu gwybodaeth fanwl ac amlweddog yn ymwneud â dros 1000 o ffactorau y credir eu bod bwysig o ran rhagweld datblygiad chwaraewyr yn gricedwyr elît neu uwch-elît, fe wnaeth arbenigwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformio Elît Prifysgol Bangor weithio gyda gwyddonwyr cyfrifiadureg yn y brifysgol i ddadansoddi'r set enfawr o ddata.  

Datgelodd y canlyniadau y gall cyfuniad allweddol o ddim ond 18 ffactor bennu datblygiad talent.

Dyma'r eglurhad a gafwyd gan Dr Gavin Lawrence o'r Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer:

“Mae tystiolaeth anecdotaidd a gwyddonol yn awgrymu ei bod yn cymryd 10,000 awr o ymarfer bwriadol i gyrraedd safon arbenigedd. Gwaetha'r modd, yr hyn na all y dystiolaeth hon ei ddweud wrthym yw pa fath yn union o ymarfer y mae angen i ni ei wneud a phryd? O ganlyniad, gallai fod cannoedd neu hyd yn oed filoedd o gricedwyr uchelgeisiol yn ymarfer y pethau anghywir ar yr amser anghywir.

“Hyd yma, nid yw gwyddoniaeth wedi gallu ateb y cwestiynau hyn.  Ond mae datblygiadau diweddar mewn dysgu peirianyddol cymhleth wedi ei gwneud yn bosibl i ni gasglu a dadansoddi amrywiaeth enfawr o ddata er mwyn helpu i daflu goleuni ar ba fath o ymarfer sy'n bwysig a phryd mae angen i chi ei wneud os ydych am ddisgleirio ar y lefel uchaf un.  

“Er enghraifft, i ddod yn gricedwr elît, mae ein data'n dangos bod angen i chi fod wedi cyflawni llawer iawn o ymarfer hynod heriol ac amrywiol erbyn eich bod yn 16 oed, ond mae angen i chi fod wedi gwneud hyd yn oed fwy na hynny i ddod yn gricedwr uwch-elît.  Mae hyn yn herio'r farn draddodiadol y dylai cricedwyr ifanc wynebu tafliadau cymedrol a rhagweladwy er mwyn ymarfer yr un technegau ergydio dro ar ôl tro.

Meddai Dr Ben Jones, sydd newydd ennill ei ddoethuriaeth ar ôl gweithio ar y project:

“Mae’r darganfyddiadau’n dangos bod wynebu mwy o ymarfer heriol wedi’i seilio ar senarios sy’n fwy tebyg i sefyllfaoedd gemau go iawn, yn gwahaniaethu batwyr uwch-elît (rhyngwladol) y dyfodol oddi wrth eu cymheiriaid ar lefel criced sirol yn gymharol gynnar yn eu datblygiad.” 

Mae hwn yn un o ddim ond 18 ffactor a ddatgelwyd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i sicrhau bod hyfforddwyr, sgowtiaid talent a staff academi fel ei gilydd yn ymwybodol o'r 17 ffactor arall sy'n 'gwneud gwahaniaeth', ynghyd â chynllunio sut y gallent helpu i ddatblygu'r ffactorau hynny mewn cricedwyr ifanc ac uchelgeisiol.

Bydd yr holl wyddoniaeth newydd hon yn helpu i lywio datblygiad cricedwyr yn well.

Mae'r ECB wedi bod yn cydweithio ag Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor ers 15 mlynedd. Mae hwn yn un o nifer o brojectau ymchwil ar y cyd i gynyddu'r defnydd o wyddoniaeth ac ymarfer ar sail tystiolaeth o fewn criced, ac mae'n rhan o ymdrech ehangach gan yr ECB i leihau'r bwlch perfformiad rhwng clybiau ar lefel sirol a chenedlaethol.  Mae'n enghraifft arall o'r math o weithgaredd effaith ymchwil a welodd yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn dod i'r seithfed safle yn y Deyrnas Unedig yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf a arweinir gan y llywodraeth.   

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019