Ymchwil arloesol i fuddion gemau cyfrifiadurol i drin Clefyd Parkinson

Chwith-dde (heibio Bendigedfrên) mae: Dr Aaron Pritchard, (BIPBC - Ymchwil a Datblygu), Dr Rudi Coetzer –  Apwyntiad ar y cyd BIPBC/ Prifysgol Bangor a'r Athro Charles Leek – Prifysgol BangorChwith-dde (heibio Bendigedfrên) mae: Dr Aaron Pritchard, (BIPBC - Ymchwil a Datblygu), Dr Rudi Coetzer – Apwyntiad ar y cyd BIPBC/ Prifysgol Bangor a'r Athro Charles Leek – Prifysgol BangorMae niwrowyddonwyr yng ngogledd Cymru yn ymchwilio i fuddion posibl gemau cyfrifiadurol sy'n ysgogi'r ymennydd i drin Clefyd Parkinson.

Arweinir yr astudiaeth gan ymchwilwyr yn Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac arbenigwyr niwrolegol yng Nghanolfan Walton, Lerpwl.

Maen nhw'n astudio effeithiau sgrin gyffwrdd gyda gemau rhesymu gofodol ar ran o'r ymennydd a ddefnyddir i reoli symudiadau mewn cleifion Parkinson.

Mae ymchwil cynnar, sy'n cynnwys 16 claf, yn awgrymu gallai gemau cyfrifiadurol, lle bydd angen i ddefnyddwyr ymgymryd â thasgau megis defnyddio delweddu meddyliol i aildrefnu siapiau i ffitio i ofod ffisegol, helpu i symbylu rhannau diffygiol yr ymennydd a effeithiwyd gan Parkinson a gwella gweithrediad motor.  

Mae'r ymchwil yn amserol iawn wrth i elusen genedlaethol Parkinson's UK alw am well triniaethau, gan gynnwys therapïau heb fod yn gyffuriau, i roi gwell rheolaeth i gleifion o'u symudiadau.

Dangosodd yr astudiaeth ddechreuol, dan arweiniad Dr Charles Leek, Athro Niwrowyddoniaeth Gwybyddol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, bod rhywfaint o dystiolaeth bod cleifion Parkinson yn gallu symud yn gyflymach a dechrau symudiadau yn rhwyddach yn dilyn cyfnod o ‘symbyliad gwybyddol wedi ei dargedu’ ar gemau cyfrifiadurol. 

Bellach, maen nhw wedi derbyn Cyllid o £33,000 gan Lwybr i Bortffolio BIPBC, i ariannu ail astudiaeth, a fydd yn cynnwys 60 claf Parkinson, a fydd yn anelu at archwilio'r buddion posibl o ymyriad yn seiliedig ar gyfrifiadur yn fanylach. 

Esboniodd Yr Athro Leek: "Egin y prosiect hwn oedd ymchwil a gwblhawyd gennym yn 2001, a wnaed gyda sganiwr MRI un swydd ymchwil yr Ysgol Seicoleg, i astudio sut mae gwahanol rannau o'r ymennydd yn gysylltiedig â rheoli ein symudiadau a gweithdrefnau eraill yr ymennydd. Mae’r gwaith yn dangos y budd a ddaw o gynnal ymchwil ar y cyd ar wyddoniaeth sylfaenol ac ymarfer clinigol.

"Rydym yn ceisio defnyddio rhywfaint o'r ddealltwriaeth sydd eisoes gennym ynghylch sut mae'r ymennydd yn gweithio, i helpu gwella rheolaeth motor i bobl sydd â Parkinson.

"Drwy ofyn i gleifion wneud tasgau syml ar gyfrifiadur, gobeithiwn byddwn yn gallu symbylu rhannau penodol o'r ymennydd a effeithiwyd gan y clefyd yn effeithiol, a all arwain at well gweithrediad motor. 

"Mae profion fel hyn yn syml iawn, ac yn cynnwys pobl yn pwyso a mesur perthnasau gofodol gweledol.   Mae'n golygu bod yr ymennydd yn cyfrifo dimensiynau gwrthrychau'n gyflym o wahanol onglau a sut byddant yn ffitio yn y gofod a ddarparwyd.

"Mae'n ffurf o symbyliad gwybyddol. Mewn gwirionedd, rydym yn ceisio cael pobl i wneud tasgau a fydd yn symbylu rhan benodol o'r ymennydd, ac o ganlyniad, gobeithiwn bydd y rhan hwn o'r ymennydd yn gweithio'n fwy effeithiol."

Mae Dr Aaron Pritchard, sy'n arbenigo mewn ymchwilio i gyflyrau cronig, yn croesawu ymagwedd amlddisgyblaethol i'r astudiaeth, gydag Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, niwrolegwyr clinigol, meddygon ymgynghorol gofal yr henoed a niwro-seicolegwyr BIPBC.

Meddai: "Mae ystod eang o arbenigeddau’n gysylltiedig â'r prosiect hwn. Mae gennym bortffolio ymchwil i ymyriadau heb gynnwys cyffuriau ar gyfer Parkinson, sydd wedi hen ennill ei blwyf yma yng ngogledd Cymru. 

"Mae'r prosiect hwn yn gwneud cyfraniad allweddol i'n helpu i ddeall y berthynas rhwng ymwybyddiaeth ofodol a symudiad gyda Parkinson yn well, a sut gellir defnyddio hyn i ddatblygu therapïau i'r dyfodol."

Mae Parkinson yn glefyd dirywiol y system nerfol, a gellir ei adnabod drwy gryndod, anhyblygedd cyhyrau, cydbwysedd gwael a symudiad araf nad yw'n cydgysylltu. Fe'i cysylltir â diffyg yn y 'neurotransmitter dopamine', sy'n helpu i reoli'r gweithrediad motor.

Meddai Claire Bale, Pennaeth Ymchwil, Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn Parkinson's UK: "Mae Parkinson yn gyflwr a all effeithio ar bob rhan o fywyd unigolyn - yn raddol yn dwyn rheolaeth o'i gorff a lleihau ei annibyniaeth.  Oherwydd hyn, mae angen triniaethau gwell a’r bobl sydd â Parkinson ar frys, gan gynnwys therapïau nad ydynt yn golygu cyffuriau, a fydd yn rhoi'r rheolaeth well sydd ei hangen arnynt.  

"Mae llawer o bobl sydd â Parkinson eisoes yn ymgymryd â therapïau nad ydynt yn cynnwys cyffuriau, megis ffisiotherapi rheolaidd, ymarferion lleferydd a thechnegau ymlacio, i wella symudiad, lleddfu cyhyrau stiff a bod yn fwy hyblyg.  Gall y therapïau hyn leddfu symptomau nad ydynt yn gwella gan ddefnyddio meddyginiaethau a gallant fod o fudd yn gorfforol ac o les yn emosiynol. 

"Hyd yn hyn, nid oes tystiolaeth bendant y gellir defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol i symbylu'r ymennydd fel therapi heb ddefnyddio cyffuriau sy'n effeithiol i bobl â Parkinson. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at weld a oes buddion wrth ddefnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg, megis hyfforddi'r ymennydd, i wella symptomau'r cyflwr.  Mae gennym ddiddordeb mawr i weld canlyniadau'r ymchwil hwn." 

Enw'r astudiaeth hon yw Early stage feasibility assessment of a non-pharmacological intervention for motor slowing and fatigue in Parkinson’s disease.  Mae'n cofnodi galluoedd symud y gwirfoddolwyr cyn iddynt chwarae'r gemau sgriniau cyffwrdd ac yna'n ailasesu eu gweithrediad motor wedyn i nodi unrhyw welliannau.  

Ychwanegodd yr Athro Leek: "Yn yr astudiaeth ddechreuol, gwelsom fod y gwirfoddolwyr yn gallu symud yn gyflymach ac yn gallu dechrau'r symudiad yn gynt.

"Un o agweddau mwyaf cyffrous yr ymchwil yw bod yr ymagwedd mor syml ac mae modd iddo fod ar gael ar unrhyw ddyfais gyfrifiadurol, yn ffôn, llechen neu liniadur.  

"Mae'n ymyriad heb unrhyw gysylltiadau fferyllol o gwbl.  Ar hyn o bryd, mae triniaeth Parkinson i'r rhan fwyaf o unigolion yn cynnwys therapi yn seiliedig ar gyffuriau, sy'n golygu sgil-effeithiau. 

"Mae Parkinson yn gyflwr dirywiol sy'n gwaethygu dros amser.  Ein gobaith yw gall hwn fod yn rhywbeth a all ategu at ymyriadau'n seiliedig ar gyffuriau a gwella canlyniadau triniaethau ac ansawdd bywyd, i bobl sydd â Parkinson.

Mae'r syniad y gall ystod o dasgau sylfaenol fod â buddion clinigol yn gyffrous iawn.  Os bydd yn llwyddiannus, gall yr ymagwedd o bosibl gael ei ddefnyddio gyda chyflyrau eraill sy'n cynnwys camweithrediadau motor, megis strôc a chlefydau dirywiol eraill."

Dywedodd yr Athro Leek byddai ymchwil ddiweddaraf y Brifysgol yn cofnodi ymatebion cleifion dros gyfnod llawer hirach i weld a yw'r ymagwedd yn parhau i ddarparu budd clinigol. 

"Os bydd yn ddigon addawol, y cam nesaf fydd profion cwmpas ar raddfa eang, gan brofi cannoedd o bobl mewn amryw o safleoedd.   Mae'r pethau hyn yn cymryd cryn amser, a chyfnod cynnar iawn yw hyn, ond mae'n brosiect addawol iawn i'w ddilyn," meddai. 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb i ddarganfod mwy am yr ymchwil hwn gysylltu â'r Athro Charles Leek, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor, yn e.c.leek@bangor.ac.uk.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017