Mehefin 2017

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
252627282930

Clust i Wrando

Lleoliad:
Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG.
Amser:
Dydd Sadwrn 17 Mehefin 2017, 10:00–15:30

Cynhadledd un-dydd ar gyfer unigolion a theuluoedd plant sy’n fyddardod ac anawsterau clyw.

Yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd, hon fydd y 5ed gynhadledd o’i bath yng Ngogledd Cymru.

Diben yr achlysur yw dwyn unigolion a theuluoedd ynghyd i gymdeithasu, i drafod y maes, i rannu eu profiadau ac i wrando ar siaradwyr sy’n arbenigo ar y testun.

Fe fydd hefyd cyfnod o ‘Holi ac ateb’ a chyfle i unigolion i ofyn cwestiwn, gofyn am gyngor ac i annog eraill.

Bydd nifer o asiantaethau a sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cefnogi’r byddar yn bresennol yno drwy gydol y dydd.

Siaradwyr y gynhadledd eleni fydd:

Sarah Matthews (Centre of Sign-Sight-Sound (COS))

Paul Redfern (British Deaf Association)

Neges fideo gan Joe Allen (pêl-droediwr Cymru a Stoke City)

Wrexham Singing Hands - Côr Arwyddo Wrecsam

Martin Walker (Coleg Llandrillo Menai) a Delyth Murphy (Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor).

Yn ogystal â sawl siaradwr lleol fydd yn rhannu eu profiadau.

Manylion pellach cysylltwch â Iona Rhys – i.r.cooke@bangor.ac.uk 01248 38 22 55