Ŵy Chips a Nain

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Iau 15 Mawrth 2018, 00:00

Ŵy Chips a Nain

Frân Wen

Dydd Iau 15 Mawrth, 1.30pm a 6.30pm
Theatr Bryn Terfel
£8/£6 gostygiadau

Stori deuluol a gwirioneddol hyfryd sy’n dathlu’r berthynas unigryw rhwng Nain a’i wyr.

Mae Guto yn caru treulio amser gyda’i Nain.  Trip cwch i Iwerddon, picnic ar lan y môr, fflagiau semaffôr a thylwyth teg yn troi plant yn selsig!

Ond mae’r antur fwyaf eto i ddod…

Wedi ei ysgrifennu gan Gwyneth Glyn, mae Ŵy, Chips a Nain yn ddarlun gonest o bwysigrwydd cariad, cyfeillgarwch a hwyl rhwng dwy genhedlaeth wrth wynebu bywyd gyda dementia.

Cast: Gwenno Hodgkins a Iwan Garmon Cyfarwyddwr: Iola Ynyr Awdur: Gwyneth Glyn

www.franwen.com