Ionawr 2018

SuLlMaMeIGSa
123456
78910111213
14151617181920
21222324252627
28293031

‘A whistle-stop tour around the coast’ Miranda Krestovnikoff

Darlith gyhoeddus Ballard Mathews mewn cydweithrediad â'r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE)

Lleoliad:
Pontio
Amser:
Dydd Mercher 31 Ionawr 2018, 17:30–18:30

AM DDIM ond bydd angen tocyn: https://www.pontio.co.uk/online/18Miranda neu 01248 382828.

Yn y ddarlith hon bydd Miranda yn mynd â'r gynulleidfa o amgylch arfordir y Deyrnas Unedig, gan gychwyn o'i chartref ymMryste.  Bydd yn mynd ar hyd arfordir Cymru, dros y môr i Dde a Gogledd Iwerddon, at yr Ynysoedd Gorllewinol ac arfordir Yr Alban, i lawr arfordir dwyreiniol Lloegr ac yn ôl am adref ar hyd arfordir de a gorllewin Lloegr.  Yn ystod y daith ar wib hon bydd yn sôn am rai o'r straeon gorau mae wedi eu ffilmio i'r gyfres "COAST" a "The One Show" i'r BBC a "Wreck Detectives" i Channel Four.  Bydd yn rhoi golwg tu ôl i'r llenni fel petae ar sut y caiff rhai o'r eitemau eu ffilmio a beth sy'n digwydd pan mae popeth yn mynd yn draed moch! 

Caiff y ddarlith ei thraddodi ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.  Caiff y siaradwr ei chyflwyno gan yr Athro David Thomas. 

Cynhelir derbyniad gyda diodydd am ddim cyn y ddarlith am 5pm yn Narlithfa 2 Pontio.

Archebwch eich tocyn am ddim ddigon ymlaen llaw rhag i chi gael eich siomi!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.

Llun: Epic Photography 

Dogfennau cysylltiedig: