Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

‘Can the UN trump Trump?’ Yr Arglwydd Wood, Cadeirydd UNA-UK

Darlith gyhoeddus ar y cyd gyda Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig

Lleoliad:
Darlithfa Eric Sunderland (MALT), Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2017, 17:30–18:30

Yng nghyd-destun byd sydd yn ymrannu fwyfwy, ydi'r Cenhedloedd Unedig yn fwy neu'n llai pwysig?  Pa mor hanfodol yw amlochroldeb wrth wynebu materion cyfoes byd-eang?  Yn y ddarlith ddadlennol hon, bydd yr Arglwydd Wood oGymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y Deyrnas Unedig), yn trafod perthnasedd y Cenhedloedd Unedig ar adeg pan fo'r sefydliad yn cael ei ddifrïo a'i gamddeall yn gynyddol.

Caiff y ddarlith ei thraddodi ddydd Gwener, 8 Rhagfyr am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn.  Caiff y siaradwr ei gyflwyno gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes.

Mae’r Arglwydd Wood yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen.  Arferai fod yn Uwch Gynghorwr Arbennig ar bolisi tramor i'r Prif Weinidog, Gordon Brown, gan ymdrin ag Ewrop, yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol a chysylltiadau â sefydliadau rhyngwladol.  Fel academydd mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar economi wleidyddol a gwleidyddiaeth Ewrop.

Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb.  Noddir y ddarlith ar y cyd gan Brifysgol Bangor a changen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.