Mai 2019

SuLlMaMeIGSa
1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031

Mae ymweliad Canolfan Parciau Gweinyddiaeth Bwrdeistrefol Beijing (BJMACP)

Lleoliad:
Chinese Pavilion, Confucius Institute
Amser:
Dydd Gwener 24 Mai 2019, 10:00–12:00
Cyflwynydd:
Bangor University's Confucius Institute

Bydd BJMACP yn rhoi darlith ar Werthfawrogiad Gerddi Tsieineaidd a Diwylliant Planhigion Tsieineaidd yn Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor ar 24 Mai 2019 rhwng 10:00 am a 12:00 pm fel rhan o'u taith yn y DU. Nod y ddarlith yw cyflwyno manylion diddorol am ddatblygiad yr ardd draddodiadol Tsieineaidd a bydd yn arddangos y dirwedd o wahanol erddi yng ngogledd-ddwyrain a de Tsieina. Dilynir hyn gan weithdy rhyngweithiol ar Bensaernïaeth yr Ardd.

Croeso i bawb! 

Mae'r Beijing Municipal Administration Center of Parks (BJMACP)  yn rhedeg 11 parc trefol sydd â gwerth hanesyddol yn Beijing yn cynnwys Palas yr Haf, Teml y Nefoedd, Gardd Botaneg Beijing  ac Amgueddfa Pensaernïaeth Gerddi a Thirweddau Tsieineaidd. Mae'r parciau trefol hyn yn croesawu dros 100 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn lledaenu gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol, addysg a gwyddoniaeth Tsieineaidd. Mae’r BJMACP yn chwarae rhan enfawr mewn cadwraeth ecolegol a diwylliant clasurol, ac mae wedi ennill sawl teitl anrhydeddus -  “State Popular Science Education Base”, “Beijing Popular Science Education Base”, “Beijing Environmental Education Base”, “Beijing Top 10 Ecological Tourism and Birds Observation Site” a “Institution of Open-minded Science Practice of Beijing Municipal Education Commission”.