‘Talking about the nation: history and national identity’

Lleoliad:
Ystafell y Cyngor, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mercher 20 Chwefror 2019, 13:00–14:00
Cyflwynydd:
Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Cyswllt:
Dr Marcel Stoetzler

‘Talking about the nation: history and national identity’

Robin Mann, (Prifysgol Bangor)

Mae agweddau hanesyddol ac achosol tuag at genedligrwydd wedi canolbwyntio ar archwilio'r newidiadau cymdeithasol ac economaidd hirdymor a all esbonio cynnydd a chwymp gwleidyddiaeth cenedlaetholdeb. Mae ymchwil gymdeithasegol fwy diweddar, fodd bynnag, wedi pwysleisio'r syniadau bob dydd o genedlaetholdeb lle rhoddir sylw empirig i safbwyntiau poblogaidd neu 'gyffredin' y genedl. Mae hyn wedi ysgogi trafodaeth am yr agwedd briodol. Mae eiriolwyr cenedlaetholdeb bob dydd yn gwneud apêl hollol briodol i ddeall barn a theimladau pobl gyffredin. Mae beirniaid wedi dadlau os yw cenedlaetholdeb bob dydd yn esgeuluso hanes a dadansoddiad esboniadol, yna mae perygl y bydd yn bychanu'r hyn sydd gan bobl i'w ddweud. Yn amlwg, byddai'n rhaid  i unrhyw ddadansoddiad eglurhaol ystyried barn am y byd gan bobl y mae syniadau a negeseuon cenedlaetholdeb wedi eu hanelu atynt. Un ffordd y gellir llenwi'r 'bwlch' hwn yw trwy dynnu ar yr atgofion hanesyddol a wneir pan fydd pobl yn siarad am genedl. Yn sicr, mae pobl yn cyfeirio at ddigwyddiadau hanesyddol ac at syniadau y gellid eu disgrifio fel 'chwedlau'. Mae'r ffaith bod pobl yn gwneud cyfeiriadau hanesyddol yn ddarluniadol iawn. Ond er mwyn i ddadansoddiad o sgwrs boblogaidd gyfrannu at theori cenedlaetholdeb, mae angen rhoi ystyriaeth ymhellach i'r gwahaniaeth rhwng yr 'elit' a 'phobl gyffredin: pa bobl? pa bobl elit?; a mynd i'r afael â chwestiwn perthnasedd: sut a phryd y mae 'negeseuon' yn gwneud eu marc ar y boblogaeth? Edrychir ar y materion hyn trwy ddefnyddio data cyfweliadau ansoddol sy'n archwilio barn pobl yng Nghymru am genedl ac Ewrop.