Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

2001: Tu Hwnt i 50

Lleoliad:
Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
Amser:
Dydd Sadwrn 16 Mehefin 2018, 14:00–21:00
Cyflwynydd:
Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Mwy o wybodaeth:
Cofrestrwch yma

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor yn falch o gyflwyno 2001: Tu Hwnt i 50 -

Diwrnod o sgyrsiau, cerddoriaeth ac arddangosfa yn dathlu hanner canfed pen-blwydd clasur Stanley Kubrick, 2001: A Space Odyssey (1968). Ceir cyfraniadau gan arbenigwyr a phobl a fu'n gweithio ar y ffilm.  

Lleoliad: Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ

Dyddiad: 16 Mehefin 2018, 2 - 11 pm.

Rhaglen dros dro (gall yr amseroedd newid ond mae'r siaradwyr wedi'u cadarnhau):


11.00 yb Dangosiad 2001 i blant/ ysgolion

2.00yp Rhagarweiniad gan Piers Bizony, awdur 2001: Filming the Future and 2001: A Space Odyssey.

2.30yp Gwahanol safbwyntiau: panel o arbenigwyr yn ymdrin â gwaddol 2001, yn cynnwys seicoleg, deallusrwydd artiffisial, bioleg esblygiadol, ac athroniaeth a chrefydd.  Panelwyr:  Yr Athro Robert Ward (Bangor), Yr Athro Guillaume Thierry (Bangor), Dr. Bill Teahan (Bangor), Mr. Eric Krasny (Bangor), Dr. Lawrence Ratna (Barnet, Enfield & Haringey Mental Health Trust) a'r Athro Peter Wheeler (Liverpool John Moores). 

4.00yp Paned a chyfle i weld props o'r ffilm ac arddangosfa o waith creadigol gan fyfyrwyr a ysbrydolwyd gan 2001.

4.30yp Symposiwm ffilm: academyddion allweddol yn sgwrsio, yn cynnwys Yr Athro Robert Kolker (Emeritus, University of Maryland), awdur The Extraordinary Image: Orson Welles, Alfred Hitchcock, Stanley Kubrick; Yr Athro Ian Hunter (DMU), awdur Cult Film as a Guide to Life; a Mr. Peter Kramer (UEA), awdur BFI Classic, 2001: A Space Odyssey. 

5.30yp Cyngerdd o gerddoriaeth o ffilmiau Kubrick gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor (Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau).

6.30yh Swper

7.30yh Panel o rai a fu'n gweithio ar 2001: cynhyrchydd Kubrick a'i frawd yng nghyfraith, Jan Harlan; Tony Frewin, cynorthwywr Kubrick; Keith Hamshere, ffotograffydd lluniau llonydd; Joy Cuff, cynllunydd set/effeithiau gweledol; a Colin Arthur, artist colur ac effeithiau arbennig. 

9.00yh Dangosiad o 2001.


Safle Facebook: https://www.facebook.com/events/475619502885578/

Cofrestrwch YMA