Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Arolygu Asesu

Lleoliad:
Alun 106
Amser:
Dydd Mercher 25 Ebrill 2018, 09:30–12:00
Cyflwynydd:
Dr Kate Exley
Cyswllt:
CELT

Gwahoddir cyfranogwyr i ystyried y ffyrdd y mae newidiadau ehangach mewn Addysg Uwch wedi dylanwadu ar ddulliau Asesu, ac i drafod amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar ein dewisiadau pan fyddwn yn cynllunio asesiadau myfyrwyr. Ceir cyfleoedd i adolygu amrywiaeth o ddulliau asesu ac i ystyried sut y gellir ymgorffori’r syniad o ‘Asesu ar gyfer Dysgu’ i’r ymarfer.

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:

  • Ystyried amrediad o ffactorau sy’n effeithio ar benderfyniadau ynglŷn â chynllun asesiadau.
  • Adolygu nifer o ddulliau asesu.
  • Ystyried sut y gall myfyrwyr gymryd mwy o ran yn y prosesau asesu er budd i’w dysgu.
  • Ymdrin â senario cysylltiedig ag asesu, a chynllunio dull priodol o asesu.

Bwcio lle