Medi 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Bywyd Gyda'r Signora

Lleoliad:
Pontio
Amser:
Dydd Gwener 15 Medi 2017, 19:30–21:30

Stiwdio,

Nos Wener 15 Medi, 7.30pm

£12

Bu Bruna Lipoli yn forwyn, yn wraig cadw ty ac yn gyfeilles i'r soprano fydenwog, Maria Callas, am yn agos i ugain mlynedd. Bu bywyd "soprano'r ganrif" mor angerddol a dramatig a'r cymeriadau operatig y bu'n eu portreadu.

Yng nghyflwydiad un act "Bywyd gyda'r Signora", mae Bruna yn hel atgofion am flynyddoedd olaf Maria Callas ac yn meddwl sut y dirywiodd ei gyrfa a'i bywyd personol gan arwain at ei marwolaeth gynnar ym mis Medi 1977.

Mae atgofion Bruna yn cael eu darlunion drwy berfformio arias o rannau mwyaf adnabyddus Maria Callas - arias sy'n adlewyrchu trasiedi a drama ei bywyd ei hun (Tosca, Madame Butterfly, La Traviata...)

Bydd Anne Williams-King, sydd yn gantores o fri rhyngwladol sydd wedi canu llawer o rannau opera Callas ledled y byd, yn portreadu Callas a bydd Marian Bryfdir, sy'n gyn-gantores yn Convent Garden ac yn hyfforddwraig llais, yn chwarae rhan Bruna Lupoli.

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Jamie-Glyn Bale gydag Ann Williams-King fel Maria Callas a Marian Bryfdir fel Bruna Lipoli.

Gostyngiad o 10% i grwpiau o ddeg neu fwy - cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau 01248 382828