Cân i Gymru

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Iau 1 Mawrth 2018, 00:00

Cân i Gymru

Mae’n bleser gan Pontio groesawu cystadleuaeth gyfansoddi enwocaf Cymru i Theatr Bryn Terfel ar Ddydd Gŵyl Dewi. Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris sy’n arwain y noson wrth i’r genedl ddewis pwy fydd yn ennill tlws Cân i Gymru ynghyd â gwobr ariannol o £5000. Cyfle i chi ymuno yn y pleidleisio a mynegi eich barn ar y rhestr fer o ganeuon fydd yn cael eu perfformio’n fyw.

Caiff y digwyddiad ei ddarlledu’n fyw ar S4C.

Tocynnau am ddim ar gael o 10am, 15fed Ionawr 2018 o Swyddfa Docynnau Pontio 01248 38 28 28 neu pontio.co.uk


Nos Iau 1 Mawrth

Theatr Bryn Terfel