Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Cabaret Pontio yn cyflwyno

Emily Portman & The Coracle Band

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2016, 20:00–22:00
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Y Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28

Theatr Bryn Terfel
Nos Wener, 2 Rhagfyr, 8pm
£14/£12

Mae Coracle, trydydd albwm Emily Portman, wedi cael sylw cynyddol a thoreth o adolygiadau canmoliaethus ers ei ryddhau ym Mehefin. Yn ddiweddar cafodd Coracle ei enwi'n 'Albwm Gorau 2015' gan y Telegraph ac mae caneuon ohono wedi cael eu chwarae gan rai fel Jarvis Cocker, Late Junction, gyda sesiwn fyw i ddod ar Folk Show Mark Radcliffe ar y BBC.

Mae Emily Portman yn perfformio gyda The Coracle Band, sef cast gwych o gerddorion a fu'n recordio'r albwm stiwdio gyda hi ac sydd nawr wedi dod ynghyd i ail-greu Coracle mewn sioe fyw uchelgeisiol. Gyda'i gilydd, bydd The Coracle Band yn cyflwyno holl ehangder, dyfnder a harddwch gwaith gorau Emily hyd yma. Mae offerynnau taro, gwefrau, gitâr pedal ddur, telyn drydan a llinynnau mawreddog yn ymdoddi gyda chôr gwirioneddol o leisiau.

Caniateir diodydd yn y theatr yn ystod y digwyddiadau hamddenol, steil cabaret yma.

***** "Coracle is a triumph... Delicate as a spider’s web, yet tough as memory, this is a rich and remarkable record" R2 MAGAZINE

***** "Coracle is, without doubt, one of the folk albums of the year" SONGLINES