Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
Amser:
Dydd Sul 11 Rhagfyr 2016, 19:30–21:30
Cyflwynydd:
Pontio
Cyswllt:
Swyddfa Docynnau
01248 38 28 28
Theatr Bryn Terfel

Nos Sul, 11 Rhagfyr 7.30pm
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed


Prokofiev: Cyfres Lieutenant Kijé
Arutiunian: Concerto i Drymped
Beethoven: Symffoni Rhif 6, ‘Bugeiliol’
Bari Gwilliam (trymped)
Chris Collins (arweinydd)


Bydd Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn cyflwyno dau gampwaith Sofietaidd yr 20fed ganrif ochr yn ochr ag un o symffonïau mwyaf Beethoven. Mae Cyfres Lieutenant Kijé gan Prokofiev, oedd yn wreiddiol yn sgôr i ffilm gomedi am filwr dychmygol a grëwyd o ganlyniad i wall clercyddol, yn llawn hiwmor tafod yn y boch a lliwiau Rwsia. Mae Symffoni ‘Pastoral’ Beethoven yn atgof hudolus o gefn gwlad, yn flas croesawus o’r gwanwyn ar noson o aeaf. Yn y canol, bydd y pencampwr trymped lleol, Bari Gwilliam, yn ymuno â’r gerddorfa yn y concerto cyffrous a thelynegol gan y cyfansoddwr Armenaidd Alexander Arutiunian.