Codi'r To
- Lleoliad:
- Theatr Bryn Terfel, Pontio
- Amser:
- Dydd Mawrth 20 Mawrth 2018, 19:00
Cyngerdd Pen-blwydd Codi’r To yn 4 oed
Mae Sistema Cymru - Codi'r To yn broject cymunedol sy'n gweithio gydag ysgolion cynradd lleol a'u cymunedau i roi hyfforddiant cerddorol rheolaidd, gan weithio gyda grwpiau blwyddyn gyfan o blant. Seiliwyd y cynllun ar raglen hynod lwyddiannus ac enwog El Sistema o Venezuela. Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Codi'r To yn bedair oed gyda disgyblion o Ysgol Glancegin wrth iddynt godi'r to efo'u côr, band pres a band Samba bywiog!
7pm
Theatr Bryn Terfel
£5/£2