Rhagfyr 2016

SuLlMaMeIGSa
123
45678910
11121314151617
18192021222324
25262728293031

Cyfres Cyfnewid Gwybodaeth Bwydo ymlaen

Lleoliad:
Ystafell Ddysgu 5/6 yn Adeilad Wheldon
Amser:
Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2016, 13:00–14:00
Cyflwynydd:
Peggy Murphy
Cyswllt:
CELT

Mae’r sesiynau hyn yn agored i bawb ac wedi'u cynllunio i ddarparu cyfleoedd anffurfiol byr i gwrdd â chydweithwyr a chyfnewid syniadau am ddulliau o ddysgu ac addysgu ym Mangor sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Arweinir y sesiwn hon gan Peggy Murphy, Addysgwr Nyrsio, Cyd-gyfarwyddwr PgCertHE yn CELT, ac un o Gymrodorion Addysgu Cenedlaethol Bangor. Bydd Peggy yn siarad am ei gwaith yn gwella canlyniadau myfyrwyr trwy  ddefnyddio adborth i fyfyrwyr mewn ffordd wahanol.

Mae project arloesol Peggy, Feedforward, yn cwmpasu dwy thema allweddol;  ‘Dal gafael a llwyddiant myfyrwyr’ ac ‘Asesu ac Adborth’.  Caiff ei ddyfynnu fel enghraifft o ymarfer da i wella profiad myfyrwyr mewn nifer o gyhoeddiadau'r Academi Addysg Uwch yn cynnwys Compendium of Effective Practice in higher education, Volume 2 HEA. Roedd y gwaith yn ysgogi myfyrwyr i ddarganfod y cysylltiad rhwng asesu ac adborth a dangos sut roedd gweithio gydag adborth yn rhoi gwerth ychwanegol i'w dysgu.

Bwcio lle