Mai 2018

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor

Taith Saesneg

Lleoliad:
Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, LL57 2DG
Amser:
Dydd Sadwrn 5 Mai 2018, 11:00–12:00

Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Chwefror a Mai. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.

Yn ogystal a’r teithiau cyffredinol fydd yn cael eu cynnal, bydd cyfle i fynychu teithiau gan dywyswyr gwadd arbenigol. Ym mis Mai bydd David Roberts, cyn gofrestrydd y Brifysgol yn arwain teithiau ar ‘ “Cofadail Parhaol Bangor” : dyluniad a hanes Prif Adeilad y Brifysgol’.

Mae’r teithiau tywys yma yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor i gynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor gyda'r daith olaf yn y gyfren presennol ddydd Sadwrn 5 Mai. Cynhelir teithiau yn Saesneg am 11.00yb-12.00yp ac yn Gymraeg 12:30yp-1:30yp ar y dyddiau yma.

Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.gov.uk