Medi 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Cymhorthfa Effaith 2 - Defnyddio PURE i ddilyn hynt a thystiolaeth eich Effaith

Lleoliad:
Ystafell Cledwyn 3 (TCR 3) ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau
Amser:
Dydd Mercher 27 Medi 2017, 13:00–14:00
Cyflwynydd:
Claire Davis (Rheolwr REF a PURE) a Saskia Pagella (Rheolwr Effaith ac RCUK)
Cyswllt:
Dr Saskia Pagella
ext 2600

Mae defnyddio PURE i ddilyn hynt a thystiolaeth eich effaith yn hyfforddiant sydd wedi'i anelu at yr HOLL ymchwilwyr.  Mae PURE - y system newydd ar gyfer gwybodaeth ymchwil ym Mangor - yn eich galluogi i nodi pob agwedd ar eich ymchwil a'ch gweithgaredd mewn un fan hwylus, yn cynnwys yr effaith y mae eich ymchwil yn ei chael, neu i gofnodi'r gwahanol lwybrau/gweithgareddau a all arwain at effaith.   Efallai eich bod eisoes wedi bod i sesiwn hyfforddi a oedd yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i PURE, ond mae hon yn sesiwn anffurfiol lle byddwn yn mynd i fwy o fanylder ynghylch y ffordd y gellwch ddefnyddio'r system mewn perthynas ag effaith.  

Peidiwch â phoeni os na ellwch ddod ar y dyddiad hwn. Caiff y pynciau hyn eu hailadrodd gydol y flwyddyn ac mae adnoddau ar-lein yn ymwneud â phob pwnc yn cael eu datblygu hefyd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch a Dr Saskia Pagella -  s.l.pagella@bangor.ac.uk (2600)

Bwcio lle