Cymorth Cymrodoriaeth HEA
Arweiniad ac Adborth ar Geisiadau
- Lleoliad:
- Ystafell Seminar Wheldon
- Amser:
- Dydd Mercher 9 Mai 2018, 14:00–16:00
- Cyflwynydd:
- Dr Fay Short
- Cyswllt:
- CELT
A hoffech chi gael ychydig o gymorth i lenwi eich cais Cymrodoriaeth HEA?
Bwriad y sesiwn gymorth hon yw helpu'r rhai sydd wrthi'n llenwi ffurflen gais ar hyn o bryd (ewch i'r sesiwn gynefino os ydych angen gwybodaeth ragarweiniol).
Yn y sesiwn hon cewch arweiniad ac awgrymiadau i'ch helpu drwy'r broses. Cewch gyfle hefyd i rannu eich drafftiau a chael adborth am eich cais. Bwriad y sesiwn hon yw mynd â chi'n nes at gael achrediad dysgu, ac mae'n arbennig o berthnasol i unrhyw un sy'n bwriadu cyflwyno cais yn y cylch nesaf o geisiadau (17 Mehefin).
Mae'r sesiynau hyn yn addas i staff academaidd nad yw'n ofynnol iddynt wneud cwrs PgCert (Addysg Uwch). Rhoddir blaenoriaeth i staff academaidd nad ydynt yn dal cymhwyster addysgu ar hyn o bryd.