Ionawr 2017

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Darlith O`Donnell 2017: `Early medieval Wales: material evidence and identity`, Yr Athro Nancy Edwards

Lleoliad:
Darlithfa Eric Sunderland (MALT), Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mawrth 31 Ionawr 2017, 18:30–20:30

 

Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar.  Bu’r cyfnod rhwng cwymp rheolaeth y Rhufeiniaid a dyfodiad y Normaniaid yn allweddol o ran esblygiad Cymru, ei hiaith a’i hunaniaeth.  Eto i gyd, rydym yn gwybod llai am Gymru c. OC350-1050 nag am unrhyw ran arall o Brydain ac Iwerddon.  Bydd y ddarlith hon yn rhoi sylw i rai agweddau o'r dystiolaeth archeolegol, er enghraifft cerrig arysgrifenedig, gwaith metel ac aneddiadau, o ran beth y gall ac na all y dystiolaeth ei ddweud wrthym am newid mewn hunaniaeth.

Athro Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor yw Nancy Edwards.  Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar archaeoleg Cymru ac Iwerddon c. OC400-1100.  Mae wedi cyhoeddi'n helaeth am gerrig arysgrifenedig yn yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru ac am archeoleg yr eglwys.  Ar hyn o bryd, mae'n Uwch Gymrawd Ymchwil Leverhulme ac yn ysgrifennu llyfr ar fywyd yng Nghymru'r oesoedd canol cynnar.  Mae hefyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr.

Cyflwynir y ddarlith ar y cyd â Phrifysgol Cymru, ac mae croeso cynnes i bawb.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.