Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Darlith O’Donnell

Cenhedloedd, cenedlaetholdebau a gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol

Lleoliad:
Darlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Brifysgol
Amser:
Dydd Mercher 25 Ebrill 2018, 18:30–19:30
Cyflwynydd:
Yr Athro Richard Wyn Jones

Refferendwm annibyniaeth 2014; Etholiad Cyffredinol 2015; Refferendwm Brecsit 2016; Etholiad Cyffredinol 2017: mae’r gwahanol genedlaetholdebau gwleidyddol a geir yn y wladwriaeth wedi creu cyfres o ganlyniadau sydd wedi sigo Teyrnas Gyfunol Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’w seiliau. Yn y ddarlith hon, bydd Richard Wyn Jones yn dadansoddi tueddiadau’r oes gan egluro hefyd pam fod cymaint o sylwebwyr ac ysgolheigion wedi bod mor ddall i’r newidiadau sydd wedi bod yn digwydd odan eu traed.

Traddodir y ddarlith yn Gymraeg.