Mai 2018

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Defnyddio Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ein Gweithle

Lleoliad:
Wheldon 5/6
Amser:
Dydd Mercher 9 Mai 2018, 14:30–16:00
Cyflwynydd:
Gemma Griffith
Cyswllt:
CELT

Yn aml yn y gwaith, yn arbennig yn ystod y semester addysgu pan fydd beichiau gwaith ar eu trymaf, efallai y byddwn yn colli cyfleoedd yn ystod y dydd i ofalu am ein hunain gan ein bod yn rhoi anghenion ni i'r neilltu yng nghanol y diwrnod gwaith, a all gynyddu a gwneud i ni deimlo wedi ymlâdd.

Bydd y gweithdy rhagarweiniol hwn sy'n cynnig profiadau yn edrych sut y gallwn ddefnyddio ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar byrion yn ystod y diwrnod gwaith. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r hyn yw ymwybyddiaeth ofalgar, y dystiolaeth ymchwil y tu ôl iddo, a gwneud ymarferion bychain ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn gallu deall ymwybyddiaeth ofalgar drwy brofiad.  

Cyflwynir ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar byrion - rhai sy'n cymryd dim ond ychydig funudau o'n diwrnod fel y gallwn oedi ac ailgysylltu gyda'n hunain. Bydd y gweithdy hwn hefyd yn cynnwys awgrymiadau ynghylch archwilio 'E-bostio Ystyriol' yn y gweithle, er mwyn codi ymwybyddiaeth o sut yr ydym yn gweithio gyda'n mewnflwch (inbox) mawr, a hefyd sut i ddatblygu eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich hun.

Bwcio lle