Ebrill 2018

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Diwrnod Agored yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Prifysgol Bangor hefo’r Gymdeithas Ymlusgolegol

Lleoliad:
Adeilad Brambell, Ffordd Deiniol, Bangor
Amser:
Dydd Sadwrn 14 Ebrill 2018, 11:00–15:00
Cyswllt:
helengwerfyl@gwynedd.llyw.cymru

Bydd Casgliadau Hanes Natur y Brifysgol ar agor i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn 14 o Ebrill 2018 rhwng 11yb i 3yp.

Bydd cyfle i weld Amgueddfa Hanes Natur y Brifysgol, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd yn arferol, er mwyn dysgu mwy am yr anifeiliaid sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.

Mae’r digwyddiad yma wedi cael ei drefnu ar y cyd hefo Cymdeithas Ymlusgolegol y Brifysgol a bydd cyfle i weld a gafael mewn nadroedd ac anifeilid byw eraill ar y dydd.

Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol ac mae’n rhan o waith Storiel mewn partneriaeth a Phrifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yma’n rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.

Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y gwefan http://www.bangor.ac.uk/tour/MapLleoliad.pdf

Cliciwch yma i weld y Poster