Mehefin 2018

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Driftwood - Casus Circus

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel
Amser:
Dydd Gwener 15 Mehefin 2018 – Dydd Sul 17 Mehefin 2018

Driftwood 

Casus Circus

 

Yr unig berfformiad yng Nghymru.

 

Yn y gymysgedd liwgar a chynhyrfus yma o lawenydd pur ac agosatrwydd, gwyliwch Casus yn dod â bywyd i gynfas gwag ac ymgolli yn ein hangen sylfaenol am gyswllt dynol. Dyma sioe syrcas nad yw'n gadael i chi anghofi o mai teimlo yw bod yn ddynol a bod gafael gadarn yn fater o fywyd a marwolaeth mewn eiliad o berygl. Yn y sioe acrobatig unigryw hon gwelir Casus yn mynd ar daith sy'n llawn o gysylltiadau ffrwydrol a darganfyddiadau doniol. 

 

Gan ddefnyddio technegau syrcas traddodiadol a chyfoes, mae Driftwood yn gyflwyniad gwefreiddiol  o goreograffi , acrobateg, a champau trapîs ac awyr. Rhyfeddwch at sgiliau, cryfder a dewrder aruthrol y perfformwyr beiddgar hyn sy'n profi 'r corff dynol i'r eithaf.

 

Mae cwmni syrcas ifanc blaenaf Awstralia yn mynd â'r gelfyddyd hon i lefel gwbl newydd. 

 

Addas ar gyfer pob oedran ond awgrymwn o oedran 12+ yn bennaf.


Nos Wener 15 Mehefin 7.30pm

Nos Sadwrn 16 Mehefin 7.30pm 

Dydd Sul 17 Mehefin 2.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15/£12 myfyrwyr ac o dan 18

10% i ffwrdd i grwpiau o 10 neu fwy