Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Medi 2019

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
2930

Drysau’n agored i Amgueddfa Hanes Natur Brambell y Brofysgol

Drysau Agored 2019

Lleoliad:
First Floor, Brambell Building, deiniol Road, Bangor, Gwynedd,
Amser:
Dydd Sadwrn 28 Medi 2019, 11:00–13:00

Bydd cyfle i’r cyhoedd gael ymweld ag Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 28 Medi 2019.

Mae digwyddiadau Drysau Agored yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Cychwynnodd y Casgliad Sŵoleg fel adnodd dysgu, ac fe’i defnyddir hyd heddiw. Mae’r casgliad cyfareddol hwn yn cynnwys ysgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn carw a sbesimenau wedi’u cadw mewn hylif, rhai sydd yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa yn Adeilad Brambell. Gallwch ymweld ag Amgueddfa Hanes Naturiol y Brifysgol nad yw fel rheol yn agored i'r cyhoedd, a dysgu mwy am yr anifeiliaid sy'n cael eu harddangos.

Bydd yr Amgueddfa ar agor am 11.00yb-1.00yp ac nid oes angen archebu lle.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau eraill Drysau Agored ar draws Gwynedd a Chonwy yn ystod mis Medi, ewch i cadw.llyw.cymru/drysau-agored