Medi 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930

Elis James: Yn Llygaid y Byd

Lleoliad:
Pontio
Amser:
Dydd Sadwrn 23 Medi 2017, 20:00–22:30

Theatr Bryn Terfel
Sadwrn 23 Medi, 8pm
£12 safonol, £10 dros 6o, dan 18 a myfyrwyr

Yn dilyn llwyddiant “Rhacs Jibiders”, bydd Elis James yn mynd a sioe stand-yp Gymraeg newydd ar daith ym 2017.

Dyma sioe gomedi stand up Gymraeg gan un o gomediwyr mwyaf poblogaidd a llwyddiannus Prydain, Elis James. Ar ôl ymateb eithriadol i'w sioe gyntaf ym 2015, bydd Elis yn perfformio’r math o ddeunydd sydd wedi ei dywys i frig y diwydiant comedi. Dyma gyfle i weld un o brif ddigrifwyr Prydain yn datblygu sioe gomedi trwy brofi deunydd o flaen cynulleidfa fyw, a hynny yn Gymraeg.

Enwebwyd Elis fel Best Club Comic yng Ngwobrau Chortle 2014. Fe’i gwelwyd ar Crims (BBC3), 8 Out Of 10 Cats (Channel 4), Dave’s One Night Stand (Dave), Live At The Comedy Store (Comedy Central), Russel Howard’s Good News (BBC3) a The Elis James and John Robbins Show (XFM). Llynedd, perfformiodd Elis gyda Josh Widdicombe a Jack Dee fel un o brif gymeriadau sitcom y BBC, “Josh”.

Canllaw oed: 14+, sioe yn yr iaith Gymraeg