Rhagfyr 2017

SuLlMaMeIGSa
12
3456789
10111213141516
17181920212223
24252627282930
31

ESRC Prifysgol Bangor - Cyfrif Cyflymu Effaith Cyfarfod Arddangos a Rhwydweithio

Lleoliad:
Neuadd Reichel
Amser:
Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2017, 10:00–15:30
Cyswllt:
Jean Sherry

Trosolwg o'r sesiwn

Mae tîm ESRC Prifysgol Bangor - Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn cyfarfod diwedd blwyddyn ar brojectau a gyllidir gan ESRC-IAA. Ceir cyflwyniadau, arddangosiadau a nifer o sesiynau trafod agored.

Amseroedd:
10:00 - 10.20 Cofrestru a phaned
10:20 - 10:30 Croeso a chyflwyno pawb
10:30 - 15:15 Cyflwyniadau, trafodaethau a holi ac ateb (12:30 Cinio bwffe)

Mae croeso i bawb. Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil gymdeithasol neu economaidd - a'r effaith y gall hyn ei gael ar y byd go iawn - i ddod i'r achlysur.

Mae'n gyfle hefyd i fusnesau, elusennau a chyrff llywodraeth gyfarfod ag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor ac o bosib gael mynediad at gronfeydd ESRC o bwys ar gyfer projectau ymchwil ar y cyd.

Cyllidwyd gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) yr ESRC ym Mhrifysgol Bangor.

Os ydych am fynychu, cofrestrwch yma.