Eugene Onegin

Lleoliad:
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Amser:
Dydd Iau 8 Mawrth 2018, 19:30

Opera Canolbarth Cymru

Eugene Onegin


Mae Eugene Onegin yn cyfuno stori rymus a thorcalonnus Pushkin gyda thelynegiaeth ysgubol Tchaikovsky mewn ymchwiliad trawiadol i themâu cariad, marwolaeth, bywyd a chonfensiwn.

Mae'r stori deimladwy hon yn cyferbynnu symlrwydd bywyd cefn gwlad gydag anghymedroldeb soffistigedig llys Rwsia cyn y chwyldro ac yn dweud hanes y garwriaeth ofer rhwng Tatyana ddiniwed a'r sinig Onegin, sydd wedi diflasu ar fywyd. Mae'n llawn o arias syfrdanol, yn cynnwys golygfa fawreddog llythyr Tatyana, un o orchestion repertoire sopranos.

Ceir cast gwych sy'n cynnwys sêr newydd a pherfformwyr o fri rhyngwladol. Dan arweiniad Cyfarwyddwyr Artistig Opera Canolbarth Cymru, Richard Studer a Jonathan Lyness, a chyfeiliant rhagorol Ensemble Cymru, bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn sicr o gyffwrdd a chyfareddu cynulleidfaoedd.

Operatif - Nos Fercher 7 Mawrth, 6–7pm - Bar Ffynnon - AM DDIM 
Bydd unawdwyr Opera Canolbarth Cymru'n ymuno â chantorion addawol lleol, yn cynnwys Kiefer Jones a Morgana Warren-Jones, i berfformio darnau operatig yn lleoliad anffurfiol Bar Ffynnon ar Lefel 0.

Nos Iau 8 Mawrth

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£19/£18 dros 60/ £10 myfyrwyr a dan 18