GWEITHDY RHANDDEILIAID SEACAMS2: 'Persbectifau, Cynlluniau A Phrosiectau'
- Lleoliad:
- Caernarfon Suite, Mercure Cardiff Holland House Hotel, CF24 0DD
- Amser:
- Dydd Mawrth 29 Ionawr 2019, 12:00–19:00
- Cyflwynydd:
- Seacams
- Mwy o wybodaeth:
- http://www.seacams.ac.uk/seacams2/events.php.cy
NOD Y GWEITHDY
Nod y gweithdy yw hysbysu busnesau a rhanddeiliaid eraill o’n cynnydd diweddar yn SEACAMS2 ac i ganfod blaenoriaethau ar gyfer prosiectau cydweithredol sy’n mynd rhagddynt a phrosiectau i’r dyfodol.
Amcanion y gweithdy yw:
- Hysbysu’r sector am brosiectau sy’n mynd rhagddynt ac am adnoddau technegol a logisteg sydd ar gael
- Canfod meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithgarwch SEACAMS2 i’r dyfodol
- Cytuno ar brosiectau cydweithredol gwirioneddol a phosibl ar gyfer cam terfynol SEACAMS2
PAM YDYN NI’N CYNNAL Y GWEITHDY?
Mae SEACAMS2 yn cael estyniad am flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2020 ac mae hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau cydweithredol newydd.
Rydym yn awyddus i wneud y gorau o werth yr estyniad i fusnesau yn y sector a’r ffordd orau i gyflawni hyn yw drwy drafodaeth barhaus gydag amrediad eang o fusnesau a rhanddeiliaid eraill.
Y nod yw canfod cyfleoedd a blaenoriaethau, ac i ffurfio cynllun gweithredu cydlynol i wneud y mwyaf o’r enillion i’r sector.
Bydd y gweithdy hefyd yn rhoi gwybodaeth i randdeiliaid am gwmpas a dyfnder adnoddau SEACAMS2 drwy enghreifftiau o rai prosiectau cydweithredol cyfredol a diweddar a’r llwyfan data iMarDIS.
PWY DDYLAI FOD YN BRESENNOL?
- Busnesau sy’n gweithredu yn y sector ystod llanw, ffrwd llanw ac ynni’r tonnau yn y sector morol,
- Ymgynghorwyr, cynghorwyr a rheoleiddwyr,
- Ymchwilwyr,
- Defnyddwyr data a gwybodaeth forol a rheolwyr data.
PAM Y DYLECH FOD YN BRESENNOL
Archwilio ac atgyfnerthu prosiectau cydweithredol penodol sydd o fudd i fusnesau unigol. Helpu i lunio strategaeth mewn cyd-destun rhanbarthol sydd o fudd i’r sector cyfan. Cyfrannu tuag at strategaethau sy’n datblygu mewn systemau buddsoddi ar ôl Brexit.
GWYBODAETH BELLACH A CHYSYLLTIADAU
Gall partïon â diddordeb gofrestru eu diddordeb ar wefan SEACAMS www.seacams.ac.uk neu gysylltu â Colin Jago ym Mhrifysgol Bangor (c.f.jago@bangor.ac.uk) a/neu Dave Clark ym Mhrifysgol Abertawe (d.r.k.clarke@swansea.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth am y gweithdy.
CYDNABYDDIAETH
Mae SEACAMS2 yn brosiect £17m ym mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
AGENDA'R GWEITHDY
12:00 -13:00 Arddangosfeydd prosiect wedi’u staffio 1: trafodaethau anffurfiol
Darperir cinio gweithio yn ystod yr amser hwn
Themâu ar gyfer arddangosfeydd prosiect gyda staff yn bresennol:
- Eigioneg: arsylwi a modelu
- Morffoleg gwely’r môr: mapio aml-belydr
- Datblygu cynnyrch a datblygu dulliau/adnoddau arolygu - Storio, cyrchu a phrosesu data [iMardis]
- Deunyddiau, biofaeddu a datblygiad ecolegol
- Biowyddorau a risgiau cydsynio; adar y môr; rhywogaethau morfilaidd; morloi; pysgodfeydd, adnoddau ar gyfer arolygon genetig.
- Cynnyrch a gwasanaethau ecosystemau morol
13:00 - 13:05 Cyflwyniadau, trefniadau ymarferol, diben y diwrnod.
Strwythur y gweithdy:
- Cyflwyniadau cychwynnol i hysbysu mynychwyr o’n galluoedd a’n prosiectau cyfredol.
- Gweithdy / sesiynau grŵp i ddatblygu safbwyntiau ar flaenoriaethau ar gyfer y 18 mis diwethaf.
- Cyfleoedd i gwmnïau unigol drafod prosiectau posibl gyda staff arweiniol SEACAMS (drwy arddangosfeydd prosiect wedi’u staffio).
13:05 -13:15 SEACAMS2 Gallu a chapasiti - Yr Athro Colin Jago
13:15 -13:50 Enghreifftiau o brosiectau cyfredol: (20 munud yr un)
Abertawe - Dr David Clarke
Bangor- Yr Athro Colin Jago
13:50 -14:00 Golwg Gyffredinol ar y Diwydiant – David Jones MEW
14:00 – 14:45 Sesiwn Grŵp 1.
14:45 – 15:30 Sesiwn Grŵp 2.
Ym mhob sesiwn grŵp bydd y rhai sy’n bresennol yn ymuno ag 1 o 3 grŵp. Bydd pob un sy’n bresennol yn ymuno â grŵp arall ar ddiwedd sesiwn 1 fel bod pawb yn cyfrannu at 2 grŵp. Mae pob grŵp yn cynnwys trefnydd SEACAMS sy’n cwmpasu’r ddwy sesiwn ac yn darparu un set o adborth.
Grŵp 1. Blaenoriaethau ymchwil allweddol ar gyfer y sector? (Golwg strategol. Nodi meysydd gwaith allweddol)
Grŵp 2. Eigioneg, peirianneg, bylchau o ran data a modelu? [data a modelau tonnau, modelu’r llanw, bathymetreg, effaith strwythurau ar wely’r môr; cyfleoedd i helpu i ddylunio cynnyrch]
Grŵp 3. Bylchau mewn gwybodaeth fiolegol/cydsynio? [adar y môr, rhywogaethau morfilaidd, pysgod; dosbarthiad; rhyngweithio â thyrbinau].
15:30 – 16:00 Te a Choffi; arddangosfeydd prosiect wedi’u staffio 2: trafodaethau anffurfiol
16:00 -17:00 Adborth o’r grwpiau a thrafodaeth lawn. Arweinyddion grwpiau yn rhoi adborth ; Holi ac Ateb.
17:00 – 17:10 Cloi - Yr Athro Colin Jago
17.10 – diwedd. Arddangosfeydd prosiect wedi’u staffio 3: trafodaethau anffurfiol
Derbyniad diodydd anffurfiol a chyfle i rwydweithio