Mai 2018

SuLlMaMeIGSa
12345
6789101112
13141516171819
20212223242526
2728293031

Gweithdy Ymchwil

Lleoliad:
Ystafell Groeg, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Amser:
Dydd Mercher 9 Mai 2018, 09:30–12:30
Cyflwynydd:
Canolfan Ymchwil Cymru

Gweithdy Ymchwil wedi ei arwain gan yr Athro Dauvit Broun, FBA, Athro Hanes yr Alban a Chyfarwyddwr ArtsLab, Prifysgol Glasgow.

9 Mai 2018

Ystafell Groeg, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor 

Bwriad y gweithdy yw trafod sut i gynhyrchu cyhoeddiadau o’r radd uchaf ac i gyflwyno ceisiadau llwyddiannus i’r AHRC. Er mai Hanes fydd y prif faes dan sylw, bydd y gweithdy’n berthnasol i ymchwilwyr ar draws y dyniaethau a’r celfyddydau. Bydd yn arbennig o berthnasol i ymchwilwyr sy’n gweithio ar bynciau Cymreig, gan y bydd yr Athro Broun hefyd yn ystyried sut y gall ei brofiad o waith ymchwil ar yr Alban gyfrannu at feithrin ymchwil ragorol ar Gymru.

Rhaglen

9.30yb     Sut i gynhyrchu cyhoeddiadau 4*

10.30yb   Te/coffi

11.00yb   Sut i wneud cais llwyddiannus i’r AHRC

12.00yp   Trafodaeth gyffredinol

12.30yp   Cloi